Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/45

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ffordd, at ei gyhoeddiad. Ni allasai farchogaeth ar y pryd, gan lithrigrwydd y ffordd, o herwydd y rhew. Gwyddai fod casgliad i gael ei wneyd at y genadaeth, a dysgwyliad am araeth genadol yn y lle. Yr oedd ei anerchiad y tro hwn, fel areithiwr, yn un o droion dedwyddaf ei oes. Ymddangosai, yn mhob modd, yn ei wisg Sabbathol. Yr oedd hi megys yn ganolddydd ei oes weinidogaethol tua'r amser hwnw. Yr oedd ef yn ei fan goreu, yn mhob ystyriaeth. Yr oedd addfedrwydd ei farn, eangder ei wybodaeth, grym ei ddawn areithyddol, uchder gwres ei eiddigedd dros achos y Gwaredwr, a phob peth arall, yn eu hadeg fwyaf manteisiol er iddo allu gwneyd argraff ar ei wrandawyr. Yr oedd y capel yn orlawn o bobl, er oered oedd yr hin. Yr oedd holl deimladau ei feddwl yntau wedi eu llanw hyd yr ymylon. Yr oedd ei ysbryd wedi ei danio i'r byw. Gwyddai amryw oedd yn bresennol am arwyddion allanol teimladau ei fynwes. Byddai gwylder cyssegredig neillduol yn gwisgo ei wedd a'i ymddygiad pan fyddai ei enaid yn orlwythog o feddyliau. Felly y rhagdybid yn arbenig y tro hwn, pan yr oedd ar ddechreu ei anerchiad. Dysgwylid y ceid ganddo rywbeth nad ydoedd i'w gael bob dydd. Yr oedd pregeth i ddilyn yr araeth.

Dechreuai drwy daflu golwg gyffredinol ar ansawdd y byd, mewn ystyr foesol, ac fel yr oedd yr holl genedloedd yn gorwedd mewn drygioni, ac yn eistedd yn mro a chysgod angeu. Rhwyddhäai y ffordd yn fyr ac yn naturiol at ei sylwadau dilynol. Cyfeiriai at y feddyginiaeth oedd yn cael ei chynnyg at adferiad y byd. Nodai ddwy gymdeithas yn neillduol, oedd fel dwy chwiorydd o efeilliaid, â'u gwyneb arno; sef Cymdeithas y Beiblau, a'r Gymdeithas Genadol. Cymharai y gyntaf i'r had, a'r ail i'r hauwr. Dangosai fod y naill mor angenrheidiol, o ran ei gwasanaeth, a'r llall. Pe byddai cyflenwad o had mewn granary, ac yn cael ei adael yno, gofynai, "Pa les a wnai, heb i'r hauwr ei daflu dan y gwys? Pe safai yr hauwr mwyaf medrus a ffyddlawn ar y maes, a fyddai wedi ei wrteithio yn dda, a'i aredig yn drefnus, ac eto heb had yn ei lestr, pa les a ddeuai o'i waith?—a oedd neb a ddysgwyliai am gnwd? Nac oedd, neb. Ond lle y byddai y ddau wedi cydgyfarfod, yr oedd yr amcan