Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/46

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn sicr o gael ei gwblhau. Felly am y ddwy gymdeithas hyn, y mae Rhagluniaeth y nef wedi anfon y ddwy allan gyda'u gilydd i wynebu ar faes y byd. Y gair yw yr had, y maes yw y byd, a'r hauwr ydyw y cenadwr anfonedig. Rhaid cael y tri i afael â'u gilydd. Er argraffu a rhwymo y Beiblau, ni allwn roddi adenydd iddynt, a'u cyflwyno i ofal y gwynt. Y mae yn rhaid i'r paganiaid glywed gair y gwirionedd; ond 'Pa fodd y galwant ar yr hwn ni chredasant ynddo a pha fodd y credant yn yr hwn ni chlywsant am dano a pha fodd y clywant heb bregethwr? a pha fodd y pregethant, onis danfonir hwynt?'

"Y mae amryw o gymdeithasau cenadol ar y maes, ond un ydynt mewn yspryd a dyben; ac y mae llawer yn un, bob amser, yn nerth. Fe allai mai y Swissiaid a gafodd yr anrhydedd o ddyfod allan i'r maes gyntaf, yn y flwyddyn 1556, pan yr anfonodd Eglwys Geneva bedwar ar bymtheg o genadon i gyhoeddi 'yr ymadrodd am y groes' i froydd eang South America. Ffurfiwyd y Gymdeithas er Lledaenu yr Efengyl mewn Parthau Tramor yn gynnar iawn. Daeth y Brodyr Unedig, neu y Morafiaid, allan yn fore gwnaethant anturiaethau rhagorol, a buont yn ddefnyddiol iawn. Y mae Cymdeithas Genadol y Wesleyaid wedi anfon gweithwyr ffyddlawn i'r maes—i'r Iwerddon a Ffrainc, i Gibralter a Malta, i'r Ashantee a'r Liberia Colony, a manau ereill. Y mae gan y Bedyddwyr gymdeithas lwyddiannus iawn, sydd wedi anfon allan genadon gwir enwog i'r gwledydd cynhes a thymmerus, yn neillduol. Y mae Cymdeithas yr Eglwys Sefydledig yn gweithio yn rymus mewn gwahanol barthau o'r maes, tua Sierra Leone, Malta, Cairo, British Guiana, a lleoedd ereill. Gellid crybwyll am amryw gymdeithasau ereill sydd yn cydweithio yn y gorchwyl mawr; megys yr Edinburgh, neu y Scottish Missions, Cymdeithas y Netherlands, Cymdeithas Berlin, y German Missions, a'r Basle Institution, y French Protestant a'r Rhenish Missionary Society; ac amryw ereill o lai sylw a ellid eu nodi. Y mae y rhai hyn oll yn cydweithredu, fel gwahanol gatrodau mewn un fyddin arfog, yn ymosod ar dywyllwch y byd paganaidd, ac yn ymdrechu i ledaenu egwyddorion y grefydd Gristionogol dros holl derfynau y byd.