Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/47

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Y mae rhywbeth ychydig yn wahanol yn egwyddorion ac amgylchiadau y gymdeithas yr ydym ni yn llafurio gyda hi i'r lleill i gyd, er eu bod yn un yn yr amcan a'r dyben mawr. Nid yw y gymdeithas hon yn gyfyngedig i unrhyw blaid. Ni fyn ymgyfenwi ar unrhyw blaid; ac o herwydd hyn, gelwir hi, Cymdeithas Genadol Llundain. Cynnwysa Gristionogion, fel y cyfryw, heb olygiad ar blaid, na syniadau neillduol ar drefn eglwysig. Ei chenadaeth hi ydyw anfon allan bregethwyr 'i efengylu yn mysg y Cenedloedd anchwiliadwy olud Crist,' a gadael i'r dychweledigion ymffurfio yn bleidiau fel yr ymddangoso oreu yn eu golwg hwy eu hunain. Wyneba y gymdeithas hon ar yr holl fyd hefyd, ac i bregethu yr efengyl i bob creadur; heb wahaniaethu dim rhwng y gwledydd cynhes ragor ardaloedd yr iâ, rhwng India na Siberia, rhwng broydd tywyniad haul na chyffiniau yr eira a'r rhew. Y mae ei chenadon wedi ymwasgaru i China a Madagascar, Canoldir Affrica, ac ymylon New Zealand, o ynysoedd Môr y De hyd yr Ultra Ganges, ac o Werddon—ogleddol hyd y Cape Horn! Y maent wedi wynebu ar bob math o anhawsderau naturiaethol, moesol, a gwladol; ac y mae gwenau y nef ac amddiffyn Rhagluniaeth wedi bod yn eglur arnynt. Y mae yr eneiniad oddi uchod yn disgyn fel gwlith bendith arnynt, a Duw yn peri iddynt oruchafiaeth yn Nghrist, ac yn eglurhau arogledd ei wybodaeth drwyddynt yn mhob lle.

"Yn awr, beth sydd a wnelom ni â'r genadaeth, ydyw ein pwnc yma heddyw. A ydyw y gwaith wedi ei gwblhau? Nac ydyw nid yw ond megys ar ei ddechreu. Y mae gan y byd paganaidd hawl bersonol ar bob un o honom ni; a dangos y rhwymedigaeth sydd arnom ni ydyw ein hamcan yma yn awr. Pwy a ddanfona yr efengyl iddynt, ond y rhai a'i cafodd? Pwy a ddenfyn weithred bywyd y byd tywyll iddo, ond y rhai yr ymddiriedwyd hi i'w dwylaw? At bwy y mae Ethiopia yn estyn ei dwylaw yn brysur, y mynyd hwn, ond atom ni sydd wedi ymgynnull yma? Yr wyf yn gwybod nad oes dim ond eisieu i'n gwlad ddeall ac ystyried sefyllfa y byd paganaidd, na theimla er gwneyd ei rhan yn deilwng yn yr achos. I'r dyben hyny, ni a amcanwn roddi i chwi ryw awgrym o ansawdd y byd, yn ei sefyllfa ddaiar-