Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yddol, ac yn mhoblogaeth pob gwlad, a'r cyflwr moesol y mae y gwahanol genedloedd ynddo, er ein cyffroi a'n codi i wneyd a allom tuag at anfon gair y bywyd i bob dyn yn mhob man!

"Y mae pawb sydd yma yn deall mai pelen gron ydyw y ddaiar, yn troi ar ei phegwn unwaith bob dydd yn y gwagle mawr; a'r lloer yn troi o'i hamgylch, fel morwyn i ddal y ganwyll iddi, unwaith bob mis; ac yn cylchdroi hefyd, drwy yr eangder dirfawr, unwaith bob blwyddyn o amgylch yr haul. Y mae poblogaeth ein daiar ni yn fil o filiynau o rifedi o ddynolryw; ac o'r nifer mawr hwnw, y mae dros yr hanner mewn dygn dywyllwch ac anwybodaeth —yn gorwedd yn mro a chysgod angeu; ac heb glywed cymmaint a sill o air y bywyd erioed! Y mae yn anhawdd ini ffurfio dychymyg parod am y nifer sydd yn gynnwysedig mewn miliwn. Y mae yn disgyn ar y glust o'r bron yr un sain a mil; ac ar y deall o'r bron yr un fath. Hanes y byd, a chymhariaeth yn unig, a all gynnorthwyo ein meddwl i ffurfio dychymyg priodol am y nifer. Ni a ymdrechwn, gan hyny, i gael gan bawb sydd yma ffurfio dirnadaeth, o leiaf, am ansawdd y byd, ac amlder ei boblogaeth, drwy geisio dyrchafu ein hunain yn ddigon uchel, i gymmeryd golygiad ar y ddaiar yn ei hysgogiad ar ei phegwn dyddiol, a chraffu ar ei gwyneb, a sylwi ar ei thrigolion. Felly, ni a gymmerwn ein sefyllfa, o ran ein dychymyg, yn y man lle y darluniai yr angel hwnw, yn Llyfr y Dadguddiad, ei fod, pan yr oedd yn sefyll yn nghanol yr haul:—'Ac mi a welais angel,' medd Ioan, 'yn sefyll yn nghanol yr haul.' 'Tybiwn ninnau, yn awr, ein bod yn sefyll ar le manteisiol ar yr haul, ac yn tremio i lawr tua'r ddaiar, ryw bellderau dirfawr, â llygad treiddgar, fel y wawr, a'n bod yn edrych ar ei symmudiadau, fel y byddo hi yn troi ar ei hechel, yn ei chylchrod eang, yn yr eangder mawr. Dychymygwn yn awr ei gweled, fel pelen bach ddysglaer, o draw, yn troi yn rheolaidd, tua'r dwyrain. Dacw hi yn cychwyn! Beth a welwn ni gyntaf? Dacw dref Llundain, yn awr, yn union, gyferbyn a ni. Y mae hi yn symmud o'r golwg, yn fuan. Prin y mae Lloegr wedi colli o'r golwg, nad yw yr Iwerddon, rhan o'n hymherodraeth ni ein hunain, yn dechreu ymddangos. Beth sydd acw