Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/49

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i'w ganfod? O! saith miliwn o Babyddion, yn boddloni ar ymgrymu i ddelw, o lun y groes, yn lle credu 'yr ymadrodd am y groes;' ac, mewn dygn dywyllwch ac anwybodaeth, yn cael eu tywys wrth ewyllys yr offeiriaid Pabyddol, heb wybod dim eu hunain am ffordd y bywyd! Beth! ai nid oes acw neb yn ceisio gwared y rhai a lusgir i angeu? Oes, y mae gwaith mawr wedi ei ddechreu acw. Dacw bregethwyr yr Irish Evangelical Society yn un man, ysgolion yr Hibernian Society mewn man arall, a'r gwahanol weinidogion Protestanaidd mewn cyrau ereill—oll yn gwasgar goleuni y gwirionedd yn nghanol y dywyllnos ddu!

"Gyda bod yr Atlantic wedi llithro yn ddystaw o'r golwg, i adael ein chwaer—ynys, dacw yr Unol Daleithiau yn addurno canol yr eigion, ac yn dechreu tremio arnom! Beth sydd yn y fan acw? Llwythau dirifedi o ddynolryw, yn gweu drwy eu gilydd yn nyfnder tywyllwch a thrueni; ond eto, er hyn i gyd, y mae acw fyddin ardderchog o genadon yn tywys y trigolion at odreu y groes!

"Craffwch eto yn awr! Dacw y Môr Tawelog llydan yn dyfod i'r golwg, wedi ei fritho âg ynysoedd fil, a thrigolion pob un o honynt yn plygu mewn addoliad ger bron eu heilundduw! Ond, er hyny, dacw Tahiti ac Eimeo yn dysgleirio yn ddengar. fel dwy seren ddysglaer yn nghanol mynwes y môr mawr, a goleuni gogoniant Duw yn wyneb Iesu Grist yn llewyrchu oddi wrthynt dros donau hirfeithion yr eigion dwfn.

"Dyma ni yn awr yn cael difyru ein llygaid gyda rhyw gipolwg ar demlau Cristionogol, megys yn nofio ar wyneb Môr y Deheu. Craffwch yn awr: dacw China eang, â'i hymherodraeth helaeth, yn dyfod yn brysur i'r golwg. O! clywch, fel y mae hi megys yn griddfan dan drueni tri chan miliwn o eilunaddolwyr anwybodus a choelgrefyddol! Nid oes dim i'w glywed ond son am ryw Confucius a Foe, yn lle yr Oen a laddwyd! Ond eto, dacw amryw o honynt yn cyfarfod eu gilydd yn ddirgel i ddarllen y Testamentau Newydd a wasgarwyd gan Morrison a Milne, yn ddystaw, yma a thraw. Y mae blaenffrwyth y cynauaf mawr wedi cael ei gyhwfanu acw yn barod, ni a welwn!

"Y mae y ddaiar eto yn troi yn ddiorphwys. Gwelwch yn