Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/50

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

awr, dyna lewyrch yr haul yn disgyn ar wastadedd eang Hindwstan, sydd yn cael ei olchi yn barhäus gan ddyfroedd y Ganges, a'i llifeiriant diaros. A dacw Juggernaut a'i olwynion dinystriol: dacw y tanllwyth claddedigaeth yn ffaglu dacw y weddw yn cael ei llosgi yn fyw gyda'i gŵr trancedig! Eto, er yr oll o'r trueni, dacw mission houses Serampore a Calcutta yn dyfod yn dirion i'r golwg. Dacw Bradbury, a Morton, a Lessel, newydd gyrhaedd yno y mynyd yma, i ddilyn Carey a Townley, a fu yno o'u blaen; ac y mae rhyw wawr wedi tori ar y fro dywyll acw, sydd yn dal perthynas â haul hanner dydd, sydd i dywynu yn ddysglaer ar yr holl derfynau cyn hir. Brysiwch! brysiwch! edrychwch dros fynyddau y Northern India; gwelwch yr ardaloedd hirfeithion sydd yn ymestyn hyd y pegwn. Onid oes acw le galarus i edrych arno? dim ond dyfnder llygredigaeth a thrueni yn mhob man. Eto, er hyny i gyd, daew Swan, a Hallybrass, a Youell yn dechreu planu rhosyn Saron yn eira Siberia, a lili y dyffrynoedd yn Tartary bell.

"Dacw Persia ac Arabia eto yn awr yn dyfod yn mlaen. A! y fath filiynau sydd yna dan dwyll y gau brophwyd. Ond eto, wrth i chwi graffu yn fanwl, wrth symmud o Astrachan gyda glanau Môr Caspia, gellwch weled cenadon yr Edinburgh Society yn dechreu ar y gwaith, na therfynir mo hono nes cymmeryd meddiant o'r tiroedd eang o'r bron i wasanaethu Gwaredwr y byd!

Syllwch yn awr, yn benodol—dacw Palestina yn dechreu dyfod i'r golwg. A! yr hen wlad enwog. Dacw y dyffryn lle y bu Abraham, tad y ffyddloniaid, yn codi ei babell! Ar y bryn acw y bu Dafydd yn cyfansoddi llawer o'i salmau! Dacw y mynydd lle y bu Esaiah yn chwareu ei delyn, ac yn rhagfynegu genedigaeth Crist! Dacw Galfaria lle y gwaedodd y Messiah mawr! Dacw yr ardd!—a'r bedd! Braidd na ddychymygwn glywed rhyw deithiwr dyeithr ac unig yn dywedyd yn ddystaw a gwylaidd acw, 'Deuwch, gwelwch y fan lle gorweddodd yr Arglwydd!' Mae yn alarus gweled yr Iuddewon acw yn gwibio ar hyd y lle; ac onid yw yn dwyn gwaedd eu tadau gynt yn groch ar ein clustiau—' Bydded ei waed ef arnom ni ac ar ein plant!' Y mae ei waed arnynt yn awr, yn amlwg, mewn ffordd farnol; ond y mae y dydd.