Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/51

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn agos, pan y bydd arnynt mewn ffordd achubol yn nhrefn gras y nef. Rhaid yw impio yr hen genedl yn ei holewwydden ei hun. Pwy na waeddai, Brysied yr amser i ben! Pwy a all lai na theimlo drostynt; a phwy a all lai na llawen hau wrth feddwl fod pob addewid yn ïe ac amen yn Nghrist!

"Dacw Asia Leiaf ger bron yn awr; ond yn nghanol y coelgrefydd sydd yno, ni a ganfyddwn y Russian Bible Society yn myned â'r canwyllbren aur yn ol, mewn un llaw, a chanwyll y gwirionedd yn y llaw arall, i ail oleuo y lampau a fu unwaith yn cynneu dros Fôr y Canoldir yn ddysglaer mewn llewyrch prydferth yn hir.

"A! dacw Affrica eto yn brysio i'r golwg, â'i miliynau barbaraidd yn gwaedu dan law y gorthrymydd. Ond er y cyfan, gwelwn Bethelsdorp a Sierra Leone yn llewyrchu, fel rhag—gynllun o'r dydd pan y gwelir diwedd ar y caethiwed, ac y bydd Haul Cyfiawnder yn goleuo y fro.

"Dacw Ewrop eto wedi dychwelyd i'n golwg yn ei thro! Beth a welwn ni yn y parthau eang acw o honi? Coelgrefydd Eglwys Groeg yn y gogledd, a chyfeiliornadau Pabyddiaeth yn y de. Bellach, edrychwch, dyma ni wedi dychwelyd i'n hen gartref yn ol! Dacw binacl St. Paul yn dyfod i'r golwg. Dacw swyddfa y Gymdeithas Genadol ger llaw! "Wel, bellach, gyfeillion, beth a ddywedwch chwi uwch ben yr holl olygfeydd a gawsom? A oes yma un galon a all lai na theimlo? Ai nid yw yn dda genych gael y fraint o gyfranu, yn ol fel y llwyddodd Duw, tuag at anfon gair y bywyd i'r rhai sydd yn cael eu dyfetha o eisieu gwybodaeth? A oes yma rywun a all attal ei anadl mewn gweddi, ar fod i air yr Arglwydd redeg a chael gogonedd? A oes eisieu annog? A oes eisieu cymhell? Na, na: gwn yn dda fod eich ysbryd wedi ei gynhyrfu ynoch, fel Paul yn Athen, wedi gweled y ddinas oedd wedi ymroi i eilunod.

"Ond eto, y mae rhywun yn barod i ofyn, A oes gobaith y gwelir y dydd pan y byddo y gair wedi ei gyfieithu at dafodleferydd pob un o'r cenedloedd hyn, ac y bydd yr efengyl wedi ei phregethu yn mhob gwlad a welsom ar y daith? Y mae yr ateb yn barod 'Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd, yr holl ddaiar a lenwir o ogoniant yr Arglwydd!' 'Nid dyn