Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/52

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yw Duw i ddywedyd celwydd, na mab dyn i edifarhau A lefarodd efe, ac oni chywira?' Y mae y cynghor tragwyddol wedi ei fwriadu; y mae aberth Crist wedi ei haeddu; y mae llais prophwydoliaeth wedi ei gyhoeddi; a sel Arglwydd y lluoedd a'i cyflawna. Pe bai i ryw angel ddyfod i ymweled â'n daiar ni am y tro cyntaf, pan y byddai y rhew wedi cloi y dyfroedd, a'r eira wedi gorchuddio y maes, a thlodi a llymder gauaf wedi gwisgo wyneb y byd; a phe byddai i ninnau ei sicrhau y byddai i ryw allu anweledig ddyfod cyn pen ychydig fisoedd ac anadlu ar y ddaiar nes dattod yr holl gloion, a thoddi yr holl ia, ac yr adnewyddid wyneb y ddaiar, ac y dilledid y bryniau o newydd, ac y gorchuddid y dyffrynoedd âg ŷd, ac y gwisgid y gerddi â rhosynau, nes y byddai yr anialwch a'r anghyfanneddle yn llawenychu, nes lloni pob llygad, a sirioli pob calon—a allai yr ymwelydd dy ithr hwn wrandaw yr adroddiad heb gael ei daraw â syndod? a allai efe gredu y rhag dystiolaeth am y cyfnewidiad mawr? Felly ninnau yn yr achos hwn; y mae y dystiolaeth mor gadarn a phe byddem yn gweled y cyfan wedi ei gwblhau yn barod; er ein bod ni yn teimlo ein ffydd yn awr fel yn cael ei phrofi, wrth weled fod y gwaith sydd i gael ei gyflawnu mor fawr! A fydd dim yn anhawdd i'r Arglwydd ei wneuthur? 'Pan ollyngech dy ysbryd y crëir hwynt, ac yr adnewyddir wyneb y ddaiar.' Diau y bydd y cyfan fel creadigaeth newydd. pan y clywir lleisiau yn nghanol y nef yn dadgan, 'Fod teyrnasoedd y byd wedi myned yn eiddo ein Harglwydd ni a'i Grist ef!' Mor ogoneddus fydd y cyfnewidiad! Y mae teyrnas Crist yn ei llywodraeth ar galon pob pechadur ar wahân yn ogoneddus: bydd y credadyn yn greadur newydd! Os ydyw felly mewn dylanwad ar galon un dyn, beth fydd yr olwg ar y byd pan y bydd bywyd ysbrydol a grasau Cristionogol wedi addurno yr holl ddynoliaeth i gyd! Bydd pabell Duw gyda dynion! Bydd holl dylwythau y ddaiar wedi dyfod yn un teulu, ac heb anadlu dim ond cariad, a thangnefedd, a daioni; ac yn addoli yr 'un Duw a Thad oll, yr hwn sydd goruwch oll, a thrwy oll, ac ynoch oll!'"

Ar derfyniad yr anerchiad hwn, yr oedd teimladau hynod wedi meddiannu y dorf. Ni raid yma grybwyll pa effaith a gafodd ar y casgliad ar y pryd. Nid oedd nemawr o