rwygo na thanio ar yr amgylchiad hwn, ac nid oedd dysgwyliad am hyny. Nid oedd y testyn yn galw am appeliadau o'r un natur ag y crybwyllwyd am danynt mewn rhai nodiadau blaenorol, mwy na'r amgylchiadau y gelwir ein sylw atynt eto rhag llaw. Yr oedd rhyw hyfrydwch teimlad wedi llanw mynwesau pawb fel eu gilydd ar y pryd. Goleuo a difyru oedd nod mwyaf uniongyrchol yr araeth.
Yr oedd amryw fel pe buasent wedi eu taro â syndod, ac yn edrych ar eu gilydd, i weled a oedd yr un amnaid gan neb; ond nid oedd neb yn meddiannu cymmaint a hyny arno ei hun. Yr oedd pawb wedi eu cydsyfardanu mewn myfyrdod dwys. Bu y ddaiar yn troi ger bron llygaid rhai am wythnos o amser yn barhäus ar ol hyn. Gwyddir iddi ymwthio yn ei chylchdro o flaen dychymyg rhai mewn breuddwydion nos, mewn canlyniad i'r effaith a'r argraff yr oedd y traddodiad wedi ei adael ar y teimlad ar y pryd. Dyma fu testyn ymddyddanion y gymmydogaeth am dymmor maith; ac yn wir, nid yw wedi ei ddileu oddi ar feddwl llawer hyd heddyw. Y mae ei sylwadau, ïe, ei eiriau, ar gof a chadw gan lawer yn eu mynwesau hyd y dydd hwn!
Pe gofynid, yn mha beth yr oedd nerth yr areithiwr yn ymddangos yn fwyaf neillduol ar y tro hynod hwn, gellid cyfeirio at amryw bethau. Yr oedd ei adnabyddiaeth drwyadl o ddaiaryddiaeth yn cario dylanwad grymus trwy yr holl anerchiad. Yr oedd yn cyfeirio at fynyddoedd y gwledydd pell, fel pe buasai yn son am fynydd y Twrf, neu fryniau Bodafon a Llwydiarth. Siaradai am ororau y Ganges a'r Mississippi, fel pe buasai yn adrodd am bethau oedd newydd ddygwydd gyda glanau afonydd Alaw a Braint. Yr oedd ei hysbysiaeth gyflawn am yr holl orsafoedd cenadol, yn nghyd â natur a llafur cenadon pob cymdeithas yn mhob gwlad, yn ei wneyd yn feistr ar ei orchwyl. Yr oedd ei iaith dda a nerthol yn chwanegu at effeithioldeb y dylanwad. Nid oedd Mr. Elias yn ieithydd celfyddgar; ond yr oedd ganddo iaith naturiol, gywir, a dillyn. Clust oedd ei ramadeg penaf ef. Yr oedd ei olygiadau clir ar y pwnc oedd ganddo mewn llaw yn gymhorth iddo gario yr effaith a gafodd; ac i goroni y cwbl, yr oedd