Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/54

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr hyawdledd naturiol dihafal, â'r hwn yr oedd natur wedi ei addurno, yn aros fel cuddiad ei gryfder. Creodd gyfeillion i'r genadaeth ar y pryd, nad oeddynt erioed wedi gwneyd nemawr o sylw o honi o'r blaen cyn hyn. Cymdeithas y Beiblau oedd pob peth yn ngolwg y gymmydogaeth hon; ond yn awr, daeth i ddeall fod chwaer iddi, oedd yn teilyngu yr un amddiffyn ac ymgeledd gan bawb. Y mae yr oes bresennol yn rhy fer i beri i bawb o'r gwrandawyr anghofio gyda pha effeithioldeb y terfynodd ei araeth, gyda'r geiriau, "Yr Arglwydd a roddes y gair, mawr yw mintai y rhai a'i pregethant." "Ac mor brydferth ar y mynyddoedd yw traed y rhai sydd yn efengylu, yn cyhoeddi heddwch; yr hwn sydd yn mynegi daioni, yn cyhoeddi iachawdwriaeth; yn dywedyd wrth Sion, Dy Dduw di sydd yn teyrnasu!"