Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/55

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD V.

JOHN ELIAS MEWN CYMMANFA.

YR ydym wedi gwrandaw Mr. Elias yn pregethu ar noson waith yr ydym wedi ei ddilyn hyd noswaith gyntaf y gymmanfa, a'i glywed yn anerch y bobl ar y maes, ac yn cynnal addoliad teuluaidd yn y man lle y llettyai, yn hwyr y dydd: yr ydym wedi cael cyfle i'w wrandaw yn areithio mewn cyfarfod perthynol i'r Feibl Gymdeithas; ac wedi ei glywed yn anerch cynnulleidfa yn achos y genadaeth; ond yr ydym eto heb ei glywed yn pregethu mewn Sassiwn. Y mae y gymdeithasfa yn cael ei chynnal mewn tref ger llaw heddyw: y mae yntau i bregethu am ddeg o'r gloch. Beth fyddai ni fyned yno, a rhag blaen i'r maes? O'r goreu; bydded felly. Ni a gychwynwn yr awr hon!

Y mae yr oedfa wedi dechreu. Y mae y bregeth gyntaf drosodd. Y mae y gynnulleidfa yn lluosocach nag arferol, ac y mae dysgwyliad mawr i'w weled yn amlwg yn wyneb pob dyn. Y mae Mr. Elias yn codi i fyny at y ddesg. Y mae yn taflu golwg dros yr holl dorf. Y mae yn erfyn ar y nifer sydd tua'r ymylon nesäu i'r canol. Y mae yr olwg arno yn darawiadol iawn; y mae ei holl agweddau yn ddymunol; y mae rhyw urddas boneddigaidd yn ei agwedd; y mae mawredd yn gydblethedig â gostyngeiddrwydd yn ei ymddangosiad personol. Y mae yn dyfod allan i'r maes fel cadfridog i arwain byddin—yn dywysog ar lu yr Arglwydd, neu yn hytrach fel cenadwr dros ei frenin. Nid oes neb yn gofyn iddo am gael gweled seliau ei swydd―y mae pawb yn darllen ei awdurdod yn ei wedd. Nid oes neb a faidd ammheu ei anfoniad; y mae ei dystebau yn ganfyddadwy yn yr olwg arno. Y mae ei feddwl yn llanw pob llinyn, pob cyhyr, a phob gwythen yn ei wyneb. Y mae gwreichion tân yn neidio allan o'i lygaid, ac ar yr un pryd y mae y tynerwch mwyaf gwylaidd yn gwisgo ei wedd. Y mae yn ymddangos mor bryderus a phe byddai hon i fod y gymmanfa olaf am byth iddo ymddangos yn gyhoeddus i gyflwyno ei