Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/56

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

neges dros ei Feistr mawr; y mae fel pe byddai yn meddwl ei fod ar gael ei alw i roddi ei gyfrif i fyny i'w frenin; ac o blegid hyny, y mae yn gwysio pob teimlad, pob gewyn, pob gallu, a phob bwriad a fedd at ei orchwyl pwysig a difrifol. Y mae fel pe byddai am wneyd un orchest anfarwol. Heddyw neu byth, am achub yr eneidiau sydd ger ei fron! Y mae yn rhoddi pennill allan i'w ganu, â rhyw seingarwch fel cloch aur yn ei enau,—

"O Arglwydd! gosod, rhag gair ffraeth,
Gadwraeth ar fy ngenau;
Rhag im' gam-dd'wedyd, gosod ddôr
Ar gyfor fy ngwefusau."

Y mae gwroldeb newydd yn gwisgo ei wynebpryd; y mae rhyw harddwch rhagennillgar yn mhob ysgogiad o'i eiddo; ac y mae serchogrwydd yn mhob edrychiad a wna, sydd yn gwisgo anmhrydferthwch ei wynebpryd â thegwch deniadol iawn. Nid oes eisieu un math o ddyheurad arno am ymgymmeryd â'i swydd. Y mae cleddyf yr Ysbryd yn amlwg yn ei law; ac y mae hwnw mor lân ac mor loew, fel y mae ei ddysgleirdeb yn serenu llygaid y dorf. Y mae helm yr iachawdwriaeth yn eglur am ei ael; y mae wedi amgylchwregysu ei lwynau â gwirionedd y mae wedi ymwisgo â holl arfogaeth Duw; y mae ysbryd bywyd yn melltenu yn ei dremiadau; y mae ei bregeth yn ymwthio i'w wyneb; y mae amcan ei genadwri yn ymwthio yn ei wedd: y mae hyawdledd byw yn chwareu ar ben ei fys; y mae areithyddiaeth grymus i'w weled yn ei ymafaeliad yn ymylon ei gôt; ac y mae swyn dengar yn symmudiadau ei napcvn llogell. Yn mhob peth, y mae yna ragarwydd amlwg fod daiargryn ger llaw!

Y mae y canu drosodd. Y mae math o sirioldeb difrifol yn gwisgo ei wedd. Y mae yn darllen ei destyn, mewn llais clir, ond hollol syml a dirodres:—" Ar fod Crist yn trigo trwy ffydd yn eich calonau chwi; fel y galloch, wedi eich gwreiddio a'ch seilio mewn cariad, amgyffred gyda'r holl saint, beth yw y lled, a'r hyd, a'r dyfnder, a'r uchder; gwybod cariad Crist, yr hwn sydd uwch law gwybodaeth, fel y'ch cyflawner & holl gyflawnder Duw." Y mae yn esbonio ei destyn; y mae yn dechreu dangos prif nod ac