Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/61

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ar un cyfnod neu ddau o'r bregeth, dringodd ar aden dychymyg, o'r braidd yn rhy uchel i gyrhaeddiadau y dorf i'w ddilyn yn enwedig, pan, yn ngwres ei hyawdledd, y chwareuai ar rai o ffugrau aruchel y testyn, ac y rhedai dros rai darluniadau o anfeidrol fawredd cariad Duw, a threfn yr iachawdwriaeth, ac y gwaeddai â llef uchel"Cyfuwch a'r nefoedd yw, beth a wnei di? dyfnach nag uffern yw, beth a elli di ei wybod? mae ei mesur yn hwy na'r ddaiar, ac yn lletach na'r môr; beth a all creadur meidrol ei gynnwys? Mae ei lled yn cyrhaedd at bob gradd ac oed, ac at bob sefyllfa a chyflwr o ddynolryw. Y mae ei hyd yn cyrhaedd fel cadwen euraidd, o dragwyddol fwriad Duw hyd at dragwyddol ogoneddiad y saint yn y nef; y mae ei dyfnder yn cyrhaedd at isder eithaf codwm Eden; ac y mae ei huchder yn cyrhaedd hyd at orsedd y Mawredd yn y goruwch leoedd! Meddyliwch am ei gariad o ewyllys da at ei greaduriaid, neu ei gariad o hyfrydwch yn ei bobl, y mae pob mesuriad dynol wedi colli am byth! O ryfedd ras ein Duw!"

Pan y daeth at y darluniad am y saint yn amgyffred yr hyn sydd uwch law gwybodaeth, yr oedd yn wir effeithiol. Wrth ddarlunio gwerth gwybodaeth brofiadol, "gofynai—Pa fodd y gall pobl gyffredin fel sydd yma gynnwys y wybodaeth uchel hon?" Ac atebai, â gwên serchus ar ei rudd, "Y mae genych chwi yr eneiniad oddi wrth y sanctaidd hwnw, a chwi a wyddoch bob peth!' Dyna yr unig wybodaeth oedd yn destyn ymffrost yr apostol: yr oedd yn cyfrif pob peth yn golled er mwyn ardderchogrwydd gwybodaeth Crist Iesu ei Arglwydd! Gallai dyn ddeall llawer o wybodaethau ereill, ac eto heb fod yn ddim gwell na hurtyn yn y wybodaeth hon! Dyma yr unig wybodaeth a wna ddyn yn ddoeth i iachawdwriaeth! Dyma yr unig wybodaeth all lenwi holl alluoedd a dymuniadau enaid dyn!'

Erbyn hyn, yr oedd y bregeth wedi cyrhaedd uchder nerth ei dylanwad ar y bobl. Yr oedd fel pe buasai wedi llwyddo i gael y dorf i olwg y cyflwr; ac o hyn allan, ei amcan oedd ennill pawb i ddefnyddio y waredigaeth. Darluniai fawredd cariad Duw, yn ei barodrwydd i dderbyn pechadur edifeiriol, mewn ymadroddion oedd yn ddigon nerthol i hollti y graig,