Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/62

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a thoddi y graig gallestr yn llyn dwfr. Mewn llais tyner, hanner toredig, ac megys yn ymyl wylo, darluniai duedd rasol calon Duw, addasrwydd trefn yr iachawdwriaeth at gyflwr pechadur, llwybr gogoneddus gweinyddiad trugaredd a gras i'r annheilwng trwy angeu y groes, seiliau cedyrn gobaith derbyniad i'r edifeiriol, nes yr oedd yr holl dorf drwyddi fel pe buasai yn plygu dan bwys y dylanwad. Cyfeiriodd yma at ei brofiad ei hun, a theimlai pawb ei fod yn llefaru yr hyn a wyddai, ac yn tystiolaethu yr hyn a brofai. Trosglwyddai ei brofiad ei hun i fynwesau pawb ereill. Yr oedd teimladau y dorf, erbyn hyn, fel y cwyr dan wres yr haul, yn derbyn argraffiadau ei genadwri. Yr oedd yn llefaru mor dreiddgar, fel nad oedd modd peidio ei glywed; mor oleu, fel nad oedd modd peidio ei ddeall; ac mor danllyd, fel nad oedd modd peidio ei deimlo! Wedi agor yr archollion yn ddigon dwfn, ymddangosai megys wrth ei fodd, fel meddyg medrus, yn tywallt olew i'r briwiau, ac yn rhwymo y doluriau wedi arwain y clwyfedigion at yr Hwn a ddichon yn gwbl iáchäu!

Yn nghanol y teimladau hynod hyn, troes y pregethwr megys i adlewyrchu ychydig ar ei sylwadau blaenorol; ac wrth ryfeddu mawredd y cariad, sydd uwch law gwybodaeth, yn anfeidroldeb ei eangder a'i rinwedd yn achub yr enaid, yn tawelu y gydwybod, ac yn puro y galon, adroddodd yr hen bennill canlynol, gyda'r fath effeithioldeb, na byddai ond cwbl ofer ceisio ei ddarlunio:

"O gariad! O gariad! anfeidrol ei faint,
Fod llwch mor annheilwng yn cael y fath fraint;
Cael heddwch cydwybod a'i chlirio trwy'r gwaed,
A chorff y farwolaeth, sef llygredd, dan draed."

Yr oedd ei dynerwch a'i daerineb, yn annog pob pechadur i ddyfod at Grist, yn cyrhaedd i'r byw at bob calon; yr oedd yn agor drws gobaith ger bron y gwaethaf a'r annheilyngaf, trwy ddarpariadau cariad Duw yn anfoniad ei Fab i'r byd, yn effeithiol iawn. Adroddodd y gwahoddiadau ysgrythyrol i bechaduriaid gyda nerth anarferol, fel yr oedd yr adnodau mwyaf adnabyddus yn dyfod ar y teimlad gyda'r fath newydd—deb a phe buasent heb eu clywed erioed o'r blaen. Dangosai werth mwynhâd y