Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/63

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wybodaeth brofiadol o gariad Crist, nes yr oedd yn ennill serch pob dyn yn llwyr:—"O wybodaeth ogoneddus! Ni welodd llygad, ni chlywodd clust, ni ddaeth i galon dyn, y pethau a ddarparodd Duw i'r rhai a'i carant ef: rhyfeddodau rhy ddyfnion i archangelion eu plymio byth, ac eto gwybodaeth gymhwys i alluoedd y gwanaf ei ddeall sydd yma heddyw! Gall dyn wybod y dirgelion oll, a phob gwybodaeth naturiaethol, ond eto bod heb wybod dim o'r hyn a'i gwna yn ddoeth i iachawdwriaeth. Pa les a wna pen fel lantern, os bydd y galon mor dywyll a'r fagddu? Dyma drefn sy'n dwyn y byraf ei gyrhaeddiadau yn ngolwg y byd hwn i wybod mwy na'i holl athrawon am bethau y byd a ddaw. Amgyffred gyda'r holl saint!' Y mae yr holl saint, pa mor fyred bynag y byddo eu dysgeidiaeth yn mhethau y byd hwn, yn cael eu dwyn i wybod yr hyn a'u cyflawna â chyflawnder Duw!" Rhyfedd oedd yr effeithiau ar y dorf erbyn hyn!

Cyn terfynu, troes y pregethwr ei appeliadau at y bobl yn weddïau drostynt. Yr oedd ei erfyniau dros y rhai oedd yn ymyl plygu i Grist, ac heb benderfynu, gyda thaerineb mawr yr oedd o'r bron yn ddigon i doddi teimladau y caletaf a'r mwyaf anystyriol yn y lle. Yr oedd ei wynebpryd megys yn dysgleirio. Yr oedd ei enaid fel yn ymgodi i fynydd y gweddnewidiad, i gydweddïo â Phedr ac Iago ac Ioan, yn nghymdeithas y Gwaredwr mawr ei hun. Yr oedd gras y weinidogaeth wedi ei dywallt ar ei wefusau. Terfynodd yn nghanol gorfoledd y dorf, ac wedi bod yn offerynol yn llaw ei feistr i droi lluaws o dywyllwch i oleuni, ac o feddiant Satan at Dduw. Uno droion hynotaf ei oes ydoedd y waith hon!

Yr oedd llawer yn dychwelyd o'r maes fel pe buasent heb wybod pa le i fyned, nac ar ba law i droi. Yr oeddynt o'r braidd wedi colli llwybr eu traed. Y mae yn nodedig i'w goffa, fod teimladau yr holl wrandawyr wedi cael eu cymmeryd i fyny mor lwyr dan y bregeth ryfedd hon, fel na cheid dim mewn ymddyddan, ar y dydd, ond y bregeth—" y cariad," "yr achub," &c. Barnai amryw, ar y pryd, na fuasai waeth terfynu y cyfarfod ar hyny, a gollwng y bobl adref yn y fan. Nid oedd modd cael gafael effeithiol ar ddim wedi