Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/65

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD VI.

JOHN ELIAS YN DECHREU OEDFA, AR AGORIAD ADDOLDY.

Er mwyn cael adnabyddiaeth gyflawn o gymmeriad a galluoedd unrhyw ddyn, y mae yn ofynol cael golygiad arno dan amrywiol amgylchiadau, ac yn mhob agweddiad, ac o bob ochr. Y mae y darlunydd, yn gyffredin, pan y byddo yn tynu ei fraslun at bortread, yn tremio ar ei wrthddrych o bob sefyllfa—o'r ochr, ac o'r lled-ochr, yn gystal a chyferbyn a'r wyneb; myn adnabod y profile, y three-quarter, a'r enfront, cyn yr ystyria ei hun yn barod at ei waith. Nid ellir cyflwyno ardeb cywir o Elias, heb syllu arno o wahanol fanau, a than amrywiol amgylchiadau. Yr ydym wedi tremio arno o rai manau neillduol yn barod. Ni a'i gwelsom yn pregethu ac yn areithio yn gyhoeddus; yr ydym wedi ei ddilyn hyd yr allor deuluaidd, a manau ereill; ond er mwyn cael portread teg o hono, dichon y byddai yn briodol i ni eto gael ei weled a'i glywed yn myned trwy ranau arweiniol addoliad cyhoeddus; ac efallai y byddai yn burion i ni gael golwg arno yn gweinyddu yr ordinhadau, os nid ei weled hefyd yn llywyddu yn mysg ei frodyr, ac yn ei fyfyrgell yn parotoi at ei lafur cyhoeddus. Wrth gymmeryd golygiad cyffredinol felly arno, hyderwn y cawn fantais i ganfod y llinellau arbenig hyny ynddo oedd yn ei wahaniaethu oddi wrth bawb ereill.

Y mae addoldy eang, ardderchog, newydd gael ei adeiladu, ac y mae yn un o'r capelydd gwychaf yn Ngogledd Cymru. Y mae cyfarfod pur gyhoeddus i fod ar ei agoriad. Y mae yr amgylchiad yn creu cryn sylw yn y wlad, a chyffro mawr yn y gymmydogaeth: dyna brif destyn siarad yr ardaloedd o amgylch. Y mae cynnulleidfa fawr wedi ymgasglu ar yr achlysur. Y mae trefn y cyfarfod wedi ei hysbysu; ac fel amgylchiad pur hynod, y mae yna un rhagdrefniad go anghyffredin. Beth, atolwg, yw hyny? "Y mae JOHN i ddechreu yr oedfa heno!" Y mae yr awr i ddechreu y cyfarfod ar gael ei tharo—y mae y bobl yn prysuro i'r