capel, ac y mae y lle yn llawn eisoes. Dacw Mr. Elias wrth odre y grisiau y mae yn dringo—y camrau yn araf, pwyllog, ac yn weddus. Y mae yn sefyll ar hanner y grisiau am hanner mynyd, ac â gwedd ddifrifol iawn, yn edrych dros yr adeilad newydd, fel pe byddai heb ei weled erioed o'r blaen. Y mae yn myned rhagddo; ac wedi plygu ei ben ar ei law, a'i gefn at y bobl, y mae yn eistedd am un mynyd yn yr areithfa, ac yna yn codi at y ddesc. Y mae yn rhoddi pennill allan i'w ganu―
"Gosod babell yn ngwlad Goson
Tyred, Arglwydd, yno dy hun
Gostwng o'r uchelder goleu,
Gwna dy drigfan gyda dyn:
Trig yn Sion, aros yno,
Lle mae'r llwythau 'n dod yn nghyd;
Byth na 'mâd oddi wrth dy bobl,
Nes yn ulw 'r elo 'r byd."
Tra y mae y canu yn myned yn mlaen, y mae fel pe byddai ei wedd yn dadguddio fod ei fynwes yn orlawn o feddyliau. Y mae y mawl drosodd. Y mae yn darllen rhan o 1 Bren. viii; a rhan o'r ail Salm wedi y ganfed. Y mae y darlleniad yn hynod o naturiol a tharawiadol. Y mae yn plygu i weddïo. Y mae rhyw ddwysder parchus yn ei gyfarchiad i'r orsedd—"Dduw anfeidrol!" &c. Y mae megys yn diosg ei esgidiau oddi am ei draed; canys y mae yn ymwybodol fod y lle y saif arno yn ddaiar sanctaidd. "Nid oes yma onid tŷ i Dduw, a dyma borth y nefoedd." Y mae ei erfyniau am gael ei arwain mewn gweddi gan yr Ysbryd, yn daer a gafaelgar iawn. Er fod ei lygaid yn nghauad, y mae yn codi ei ben, fel pe byddai yn edrych ar i fyny weithiau. Y mae yn gofyn yn ostyngedig am ganiatâd i ymddyddan wyneb yn wyneb â'r "Hwn sydd yn trigo yn y goleuni, nad ellir dyfod ato." Y mae yn tywallt ei holl galon mewn erfyniau, ymbiliau, deisyfiadau, a thalu diolch dros bob dyn, ger bron yr orsedd. Y mae ei ddyhewyd yn cryfhau. Y mae fel pe byddai yn cael benthyg llygaid angel, ac yn canfod yr orsedd wen fawr o draw yn mhell yn entrych y nen, a'r Hwn sydd yn eistedd arni, mewn urddas, a mawredd, a gogoniant, nes y mae rhyw wylder dymunol