Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/73

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lwyd, o flaen y bregeth, gan feddwl gwneyd gorchest, a dwyn y byd i drefn ar unwaith; a dywedodd wrtho, ei fod ef yn dyfod ato o gydwybod, dros ei Dduw, i'w annog i fod yn onest at y bobl, a'u bedyddio drwy eu trochi, yn ol gair yr Arglwydd; o blegid heb hyny, na allent fod ar dir ysgrythyrol cadwedigaeth, o blegid eu bod heb ufuddhau i orchymyn pendant Crist! Yntau, yn bur ddigyffro, a ofynodd ddau neu dri o gwestiynau i'r hen gyfaill; ond ni welai ef y ffordd yn glir i'w hateb; ac yna troes i gondemnio, a bygwth, a phrophwydo yn enbyd. Gwelai Elias nad oedd parhau yr ymddyddan yn ddim amgen na churo yr awyr; ac o herwydd hyny, tynai sylw at rywbeth arall, mewn dull hynod o ddoeth, i roddi pen ar y ddadl; ac felly y cafodd efe ymwared y tro hwn. Ond er mor ddigyffro yr ymddangosai ar y pryd, deallid fod yr ymddygiad hwn wedi ei dynu ef allan yn benderfynol ar y pwnc; o blegid gwelai y priodoldeb o gadarnhau eneidiau y dysgyblion ieuainc. a'u cynghori i aros yn y ffydd.

Yr oedd un amgylchiad pur gyhoeddus i gymmeryd lle mewn tref gyfagos ar y Sabbath canlynol; sef bedyddio un oedd mewn oedran, a thri o blant bychain. Yr oedd yr hanes yn dra hysbys yn y gymmydogaeth, ac wedi creu cryn ddysgwyliad, a chynnulleidfa luosocach nag arferol wedi dyfod yn nghyd. Wedi i gyfaill ddechreu yr oedfa, dechreuodd Mr. Elias ar wasanaeth y bedydd. Ymddangosai yn hollol bwyllus a dedwydd pan y dechreuai ar y gwaith. Dywedai:—" Yr ydym yn bresennol yn myned i gyflwyno rhai trwy fedydd i'r Arglwydd. Y mae yr amgylchiad presennol yn un lled anghyffredin, sef cyflwyniad un mewn oed, gydag ereill, trwy fedydd i Grist. Y mae hyn yn ein gosod mewn sefyllfa debyg iawn i'r amgylchiadau yr oedd yr apostolion ynddynt yn more Cristionogaeth, pan yr oeddynt yn bedyddio teuluoedd cyfain, lle yr oedd y deiliaid o bob oedran. Yr ydym yn debyg iawn hefyd i'r sefyllfa y bydd ein cenadon yn fynych, y rhai sydd yn y gwledydd paganaidd, pan y byddant yn bedyddio y dychweledigion ac yn cyflwyno rhieni a phlant, rhai o bob oed, hen ac ieuanc, drwy yr or dinhâd o fedydd i'r Arglwydd."

Aeth rhagddo yn ei sylwadau, a dywedodd ei fod ef o'r