farn y dylid gweinyddu yr ordinhâd hon gyda theimladau mor gyssegredig ag y gweinyddir yr ordinhâd arall, sef Swper yr Arglwydd; ac os na ellir ei gweinyddu mewn ysbryd addoliad, ac nid mewn ysbryd dadleugar, yn codi oddi ar sel bleidgar, mewn tymmer chwerw, bigog, gynhyrfus, a chollfarnol ar rai a fyddont yn gwahaniaethu oddi wrthym mewn barn ar y pwnc, nad ydoedd i'w gweinyddu mewn modd yn y byd. Os na ellir dyrchafu dwylaw sanctaidd, heb na digter na dadl, uwch ben yr ordinhâd, ni all y gweinyddiad o honi fod o un anrhydedd i Dduw nac adeiladaeth i ninnau. A oes rhyw angenrheidrwydd anorfod am fod mewn rhyw dymmer mwy cyffrous gyda yr ordinhâd hon na'r swper sanctaidd? Trefn iachawdwriaeth a osodir allan yn y ddwy!—un yn gosod allan ddyoddefiadau Crist, a'r llall yn darlunio gweithrediadau sancteiddiol yr Ysbryd Glân. Ni buasai yn deilwng o ddoethineb y Duw anfeidrol osod dwy ordinhâd i ddangos gwaith un o'r Personau Dwyfol, ac heb un i ddangos y llall. Y mae pob un mor angenrheidiol a'u gilydd yn ein hiachawdwriaeth. Ni ddeuai y fendith sydd ar gyfer pechadur yn iawn y groes, ac yn ngwaed yṛ Oen a laddwyd, byth i afael â'i gyflwr heb weithrediadau yr Ysbryd sydd yn cymmeryd o eiddo y Cyfryngwr ac yn ei fynegu i feddwl y cyfryw. "Eithr, yr wyf yn atolwg i chwi frodyr," meddai yr apostol, "er mwyn ein Harglwydd Iesu Grist, ac er mwyn cariad yr Ysbryd!" Yr oedd yn cyssylltu y cariad anfeidrol yn y ddau Berson yn un, y naill yn gyfartal a'r llall. Yr oedd ei sylwadau nerthol erbyn hyn yn dechreu gafael yn nheimladau y bobl i'r byw.
Dywedai: "Ar yr un pryd, efallai y dysgwylir, ar amgylchiad cyhoeddus fel hyn, i mi ddywedyd ychydig mewn ffordd o eglurhâd ac amddiffyniad i'n golygiadau ar yr ordinhâd gyssegredig hon. Yr ydym yn cael ein herlid gan rai am na ddywedem fwy am ein syniadau ar y pwnc; ond pan y traethwn ein barn yn lled gyflawn arno, dichon mai yr un rhai fydd yn ein beio am hyny drachefn yr un modd. Beiant ni, o blegid ein dystawrwydd, fel rhai heb allu amddiffyn ein golygiadau; a beiant ni, ar y llaw arall, pan y llefarom allan yn lled groew ar y pwnc, o fod yn erlid golygiadau gwahanol. Pa fodd bynag, er mwyn yr ymofyn-