Y mae pob peth yn barod at ddechreu y gwasanaeth. Y mae yr eglwys a'r edrychwyr yn y teimladau mwyaf dymunol, gan effeithiau y bregeth. Y mae y pregethwr hefyd yn ei fan goreu, ac yn ei hwyl oreu; fel y mae pob peth yn rhagarwyddo y ceir cyfarfod hynod iawn. Y mae pawb wedi cymmeryd eu lle. Y mae dystawrwydd y bedd dros yr holl addoldy. Diau y clywsid trwst deilen yn ysgwyd, pe buasai yno, gan y gosteg, gyda'r eithriad o ambell ochenaid led ddystaw oedd yn dianc o waelod calon weithiau. Y mae y bwrdd wedi ei barotoi. Y mae Elias yn eistedd wrth yr ochr, â phwys ei benelin ar yr ymyl, a’i ben ar ei law, ac ychydig o arwyddion lludded arno wedi ei bregeth egnïol. Y mae pob peth o amgylch y bwrdd yn blaen, yn ddysyml, a diaddurn iawn; ond eto y mae yna ryw fath o brydferthwch dymunol ar bob peth. Y mae yn wir nad oes yna mo'r brethyn crimson, wedi ei ymylu â'r gold gimp fringe, ac nid oes un I. H. S. mewn llythyrenau o aur pur, na llun y groes mewn gwaith edau a nodwydd ar y canol; ond beth er hyny, y mae yna lïan glân, cànaid, a hwnw mor wyned a'r eira, wedi ei daenu dros y bwrdd. Y mae yn wir nad oes yna mo'r flagon uchel, na'r chalice addurnedig; ond gadewch i hyny fod, y mae y poteli gwydr duon cyffredin sydd yna yn edrych yn bur deg ar y llian claerwyn acw. Diau nad oes yna mo'r meiliau caboledig i serenu llygad neb, eto y mae y cwpanau china bychain yna yn edrych yn lân ac yn ddengar iawn. Gwir yw, nad oes yna mo'r dysglau wedi eu gwisgo ag aur melyn, mwy na'r fasged arian dan y bara; ond eto, er hyn i gyd, y mae rhai cyffredin sydd yna i'w gweled yn lân ac yn ddymunol iawn. Os nad oes yna ganwyllau cŵyr dwy lath o hyd, a dwy fodfedd o drwch, y mae yna ganwyllau gwer glân, goleu, a siriol iawn yr olwg arnynt. Os nad oes yna yr un glustog o'r melfed pali ysgarlad i benlinio arni, y mae yna fat Niwbwrch bychan, newydd, glân, a etyb yr un dyben yn union. Os nad oes yna nemawr o wychder mewn dim, efallai fod yna aberthau Duw, sydd yn ganmil mwy o werth; sef calon ddrylliog ac ysbryd cystuddiedig, y rhai ni ddirmygir byth gan Frenin y nef! Er nad oes un cerfiad henafiaethol ar y ford na'r gadair, i swyno teimlad neb.
Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/82
Gwedd