Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/83

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eto y mae yna "ysgrifenydd wedi ei ddysgu i deyrnas nefoedd" i gyflawnu y gwasanaeth. Y mae yn codi ar ei draed. Fel y mae bobl yn gwyro, y mae efe yn ymddangos yn uwch na phawb, a braidd yn dalach nag arferol. Y mae yr olwg arno yn hynod o hoff. Y mae yma ryw beth yn dyrchafu pawb i ryw deimladau tra chyssegredig—yr edrychwyr yn gystal a'r cymunwyr—a hyny yn hollol ddiarwybod iddynt eu hunain! Y mae y gweinyddwr yn meddu boneddigeiddrwydd gwŷr y llys; medd dynerwch dillyn menyw; medd wroldeb cadfridog yr un pryd. Y mae rhywbeth ennillgar yn mhob ysgogiad a wna. Y mae yn sicr o'i nôd gyda phob peth bob amser. Wel! y mae yn dechreu ar ei orchwyl. Y mae yn galw sylw y dorf at y bwrdd, ac yn cyfeirio â'i fys at yr elfenau sydd arno. Y mae yn dywedyd:—" Yn awr, yr ydym yn myned i wneuthur coffadwriaeth o angeu Crist, mewn ufudd—dod i'w orchymyn, ac o barch i'w ddymuniad: 'Gwnewch hyn er coffa am danaf,' &c.! Hyderwn y cawn fod yma dan arwyddion o’i foddlonrwydd."

Pan yr oedd ar ddechreu ei anerchiad, safodd yn fud ystyriol am tua hanner mynyd, gan edrych yn dra difrifol ar y dorf i gyd, i fyny ac i lawr. Yr oedd â'i edrychiad ryw fodd yn gallu ennill teimladau y bobl i gyd—darawiad â'i deimladau ei hun. Yna aeth rhagddo—"Chwi a gedwch yr eich myfyrdod y sylwadau a draddodwyd genym yn barod, am y cyssegr, yr offeiriad, yr aberth, y gwaed, a'r gwasanaeth gynt, yn nghyd â'r hyn a osodid allan ynddynt, yn eu cyfeiriad at y sylwedd mawr ei hun. Yr oeddym yna yn ceisio dangos Crist i'r galon trwy y glust; yn awr, yr ydym yn amcanu ei bortreiadu i'ch meddwl trwy olwg y llygad. Dywed yr apostol fod Iesu Grist wedi cael ei bortreiadu o flaen llygaid y Galatiaid—wedi ei groeshoelio; bydd ein hamcan ninnau yn awr, i arwain eich meddwl chwithau i edrych trwy ffydd arno yn marw dros bechaduriaid ar Galfaria, drwy y portreiad a welwch o hono yn awr ar y bwrdd. Yr wyf fi er ys meityn dan yr argraff nad yw yr Arglwydd yn neppell oddi wrthym o ran arwyddion ei foddlonrwydd heno. A wnewch chwi uno mewn gweddi i gyd, am i'r lleni oll gael eu symmud ymaith, fel y gwelom