Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/84

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei ogoniant y tro hwn yn neillduol? Nid wyf yn meddwl am gael ei weled, fel y gwelodd y dysgyblion ef ar fynydd. y gweddnewidiad, â'i wyneb yn dysgleirio yn oleuach na'r haul ganol dydd, a'i wisg yn wynach na'r eira; ond ei weled yn ei ogoniant trwy ffydd—'gogoniant megys yr Uniganedig oddi wrth y Tad, yn llawn gras a gwirionedd'—nes ein codi i'r un teimladau a hwy pan y gwaeddasant allan, ‘Da yw i ni fod yma!'

"Nid oes ond y teimladau mwyaf cyssegredig yn gweddu i fod yn mhob mynwes wrth nesu at y bwrdd sanctaidd. Nid oes ond un teimlad i feddiannu calonau pawb yma. Un bara—un cwpan ydym. Ni oddef awyr y lle sanctaidd hwn i fynwes neb anadlu ynddo ond a fyddo mewn teimlad o berffaith gariad at Dduw a dyn. Y defnyddiau gweledig ydynt fara yn cael ei dori, a gwin yn cael ei dywallt, fel arwyddion o fendithion ysbrydol. Yr hyn a arwyddoceir yn y gwrthddrychau ydyw, drylliad corff Crist, a thywalltiad ei waed drosom. Y mae yr holl weithredoedd sacramentaidd hefyd yn llawn o addysgiadau i ni. Y mae ein gwaith yn bendithio yn dangos ein rhwymau i fendithio Duw am anfeidrol fawredd darpariadau ei ras yn nhrefn iachawdwriaeth; estyniad y bara yn dangos parodrwydd Duw i estyn trugaredd i bechadur edifeiriol; a'n gwaith yn derbyn y bara yn dangos ein bod yn cymmeradwyo trefn Duw, ac yn derbyn Crist yn ei holl haeddiant fel ein hunig obaith am ein bywyd byth!

"Y mae y cwbl i gael eu cyflawnu genym mewn coffadwriaeth parchus am dano. Yr ydym i gofio amser sefydliad yr ordinhad. Y mae pob peth perthynol iddi yn hynod iawn; felly yr amser—yr adeg y cafodd ei sefydlu, sef y nos y bradychwyd ef. O! y fath nos ryfedd ydoedd hono! 'Canys mi a dderbyniais gan yr Arglwydd,' medd yr apostol, 'yr hyn hefyd a draddodais i chwi; bod i'r Arglwydd Iesu, y nos y bradychwyd ef, gymmeryd bara,' &c. Yr oedd hyn yn uniongyrchol ar ol bwyta y Pasc. Prin yr oedd bwyta y Pasc drosodd, nad oedd bwyta Swper yr Arglwydd yn dechreu. Pa bryd y bu hyn? Y nos y bradychwyd ef. Yr oedd y naill megys yn cymmeryd lle y llall, fel y mae bedydd wedi cymmeryd lle yr enwaediad. Yr oedd y Gwaredwr wedi