Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/85

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dewis y nos y bradychwyd ef i'w sefydlu, am ei fod y pryd hwnw fel yn noswylio oddi wrth ei lafur cyhoeddus. Yr oedd wedi dywedyd, 'Rhaid i mi weithio gwaith yr hwn a'm hanfonodd tra yr ydyw hi yn ddydd; y mae y nos yn dyfod, pan na ddichon neb weithio.' Yr oedd ei nos ef wedi dyfod erbyn hyn. Yr oedd yr haul wedi machludo am y tro diweddaf ar ei ben glân; o blegid ar y dydd canlynol, yr oedd i gael ei draddodi yn gyhoeddus i ddwylaw ei elynion i'w groeshoelio a'i ladd. Nos ei ddyoddefiadau mawr oedd hon. Oes o ddyoddefiadau oedd ei fywyd, ond erbyn hyn yr oedd holl ffrydiau dyoddefiadau ei dymmor ar y ddaiar wedi cydgyfarfod yn ddyfroedd uchel hyd yr ên! Yr oedd rhywbeth yn rhyfedd iawn yn nywediad Pilat am dano, 'Wele y dyn!' Ond ni welodd efe, druan, ddim ond y dyn ynddo. Dyma alwad i ninnau heno i edrych arno megys yn weledig ar y bwrdd, 'Wele y dyn,' yma! Wele Immanuel, Duw gyda ni! Yr oedd Crist drwy ei fywyd yn 'ŵr gofidus a chynnefin â dolur.' Yr oedd tristwch ei gyfeillion—gwendid ei ddysgyblion caledwch ei elynion—ac erlidigaeth yr Iuddewon wedi gwasgu llawer ochenaid o'i fynwes o bryd i bryd; yr oedd dagrau cydymdeimlad wedi rhedeg dros ei ruddiau glân uwch ben bedd Lazarus, ac uwch ben dinas Jerusalem, ond erbyn hyn yr oedd y ffrydiau oll fel wedi cyfarfod yn nghyd, megys afon nerthol, o bob man, ac o bob byd; yr oedd ei nos ddu wedi dyfod. Yr oedd uffern yn cynhyrfu o danodd; yr oedd daiar fel pe buasai wedi penderfynu ei wrthod; ac yr oedd y nef yn dechreu duo uwch ei ben! Yr oedd ei elynion wedi cynllunio y fradwriaeth, ac megys yn sychedu am ei waed!—yntau ei hun yn ymneillduo i weddio yn yr ardd, mewn lle dystaw, llonydd, tawel, ger llaw afon Cedron; a Iudas hefyd a adwaenai y lle, o blegid mynych y cyrchasai yr Iesu yno! Yr oedd rhyw frys mawr ar bawb y nos hono am gyflawnu eu gwaith. Yr oedd Iudas yn prysuro. Iesu, yn gweled yr awydd mawr oedd arno, a ddywedodd wrtho, Yr hyn yr wyt yn ei wneuthur, gwna ar frys.' Wedi cyrhaedd i Gethsemane, nid oedd amser maith iddo weddïo y weddi ddyfalach, canys yr oedd tyrfa y gwaewffyn ger llaw, pan yr oedd wedi syrthio ar ei wyneb ar y ddaiar, â'i chwys fel defnynau mawrion o waed yn