Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/89

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Grist yn dewis cael ei bortreiadu ger ein bron, wedi ei groeshoelio yn aberth drosom ni. Dywedodd Ioan am yr olwg ardderchog a gafodd arno; "Ac mi a welais Oen megys wedi ei ladd." Y colofnau cadarnaf a gwychaf a gododd dynion erioed, y mae ychydig o ganrifoedd o ystormydd y byd yn ddigon i'w chwalu hyd eu sylfeini; ond dyma golofn a godwyd mewn ychydig oriau a saif hyd oni ddel efe i'w ogoneddu yn ei saint, ac i fod ‘yn rhyfeddol yn y rhai oll sydd yn credu!' Fe fydd rhywrai yn derbyn y cwpan pan y byddo llef yr archangel âg udgorn Duw yn eu newid mewn moment, ar darawiad llygad, ac yn cu cipio i gyfarfod â'r Arglwydd yn y cymylau, i'w gofio mewn gwlad berffaith, yn yr orphwysfa sydd eto yn ol i bobl Dduw! Y mae y Cyfryngwr wedi sylfaenu ei deyrnas mewn gwaed; ïe, yn ei waed ei hun: uid â gwaed arall, ond trwy ei waed ei hun, y cwblhaodd y cyfan. Y mae llawer o dref fawr Liverpool yna wedi ei sylfaenu yn ngwaed y Negroaid druain, er ei gwarth oesol hi; ond y mae teyrnas y Cyfryngwr wedi ei sylfaenu yn ei waed ei hun, er ei gogoniant tragwyddol hi. Ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys.'

"Wrth gofio ei angeu, dylem bob amser gofio yr achos o'i ymostyngiad a'i ddyoddefiadau mawr. Y Messiah a leddir, ond nid o'i achos ei hun. O achos pwy, gan hyny? Dy feiau di, bechadur! Efe a archollwyd am ein camweddau ni."" Yna, troes at y bobl yn rymus iawn yn ei gyfeiriadau, a gofynodd "Os pechod a fu yn blaenllymu pigau y goron ddrain a roddwyd ar ei ben glân, nes yr oedd y gwaed yn llifo o'r archollion, a allwn ni garu pechod byth mwy? Os ein pechodau ni a fu yn minio y waewffon a frathwyd yn ei ystlys, fel y daeth allan waed a dwfr, a allwn ni fyw mewn pechod byth mwy?" Yr oedd yr holl bobl erbyn hyn ar ymddryllio o ran eu teimladau, ac mewn gorchest fawr yr oedd pawb yn gallu ymgynnal. Dywedodd yn bur gyffröus, wedi sefyll am fynyd—" Gyfeillion! yn yr olwg ar Grist ar y groes ar Galfaria yn gwaedu o herwydd ein pechodau ni, yr wyf yn rhoddi hèr i neb sydd yma fedru byw yn annuwiol byth mwy! A oes modd i anystyriaeth dyn sefyll yn ngolwg y groes? A oes yma neb a fedr anghofio ei Briod byth mwy? Na: nid oes yma neb a all symmud cam oddi