Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/90

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wrth odreu y groes o heno allan. Dylem gofio bradwriaeth Iudas gyda'r adgasrwydd mwyaf at y weithred. Dylem gofio et erlidwyr a'i ddirmygwyr, gyda chasineb at eu holl ysgelerder; ond dylem gofio mai ein pechodau ni oedd yr erlidwyr gwaethaf―dylem gofio mai ein pechodau ni fu yn gwaeddi Ymaith âg ef, croeshoelier ef,' uchaf o bawb. Edrychwn ar yr hwn a wanasom, nes galaru o'i blegid mewn edifeirwch pur, ac y teimlom ddychryn rhag byth ymylu y pechod o ail groeshoelio i ni ein hunain Fab Duw na'i osod yn watwar!" Yn y fan hon, torodd y dorf allan i lefain cyffredinol drwy y lle; ac yr oedd ambell un yn methu ymattal heb dori allan i fanllef, ac ambell hen chwaer dwymngalon yn tori allan i orfoledd byw. Aeth yntau ei hun yn y fan hon yn hollol dan awdurdod ei deimladau drylliedig; bu raid iddo wrth ei ffunen boced, ac yr oedd ei lais wedi tori yn hanner crac, fel y bu yn hollol fud am agos i fynyd o amser. Wedi adfeddiannu ei deimladau i raddau, dywedodd, "Gyfeillion, yr wyf fi yn teimlo mwy o rwymau i'w garu heno nag erioed!" ac ar hyn, methodd a myned rhagddo yn lân am ychydig amser. Beth feddylid oedd teimladau yr edrychwyr syn yn y fan hon! Haws yw dychymygu na darlunio.

Wedi ymbwyllo ychydig, ac i deimladau wastatäu drachefn, trodd i anerch yr edrychwyr yn ddifrifol iawn. Dywedodd; "Wel, yr ydym ni i ddangos marwolaeth yr Arglwydd i chwithau hefyd. Dyma sydd genym ni am ein bywyd! Atolwg, beth sydd genych chwi? Yr wyf yn edrych ar yr arwyddion hyn sydd ar y bwrdd fel sel bywyd i chwithau, os derbyniwch hi. Dyma hi yn cael ei dangos i chwi! Dyma hi yn cael ei chynnyg i bob un o honoch chwi! Nid oes yma neb yn ei chadw nac yn ei chuddio oddi wrthych! Yr oedd Iarll Essex, yn amser y frenines Elizabeth, wedi ei gondemnio i farw. Yr oedd Elizabeth er hyny, yn ewyllysio dangos ffafr iddo; ac fel amlygiad o hyny, anfonodd ei sêl—fodrwy iddo. Yr oedd dangos hono i swyddogion y deyrnas yn ddigonol i sicrhau ei fywyd, ac i'w gadw yn ddiogel yn mhob man. Nid oedd y frenines yn dewis ei rhoddi iddo â'i llaw ei hun, ond ymddiriedodd hi i'r Countess of Nottingham, i'w danfon iddo. Trwy ddylanwad ei gŵr, yr hwn oedd elyn i'r iarll, fe'i perswadiwyd hi i beidio ei