Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/94

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

estion ei hunan, trwy ei ddoniau ei hun; ond ni fynai, o blegid yr oedd yn deall yn rhy dda am werth cydweithrediad cymdeithasol. Yr oedd efe wedi mabwysiadu yr arwyddair "llawer yn un" mewn chwaneg nag un ystyr. Gydag enwad mor luosog a dylanwadol, yr oedd yn naturiol casglu y byddai i lawer o anhawsderau gyfodi, ac y cyfarfyddid â llawer o riwiau serth y byddai raid eu dringo; ac i ragdrefnu symmudiadau cyfundeb mor fawr, yn enwedig yn nghyflwr ei brif dyfiant, tua deugain neu hanner can mlynedd yn ol, yr oedd yn ofynol cael bugeiliaeth un o wybodaeth, craffder, a chalonrwydd Elias. Dichon fod amgylchiadau yn fwy sefydlog yn awr nag oeddynt y pryd hwnw, ac nad oes cymmaint o angen am wroniaid; ond y mae yn amlwg ei fod ef yn ddyn i'w ddydd ac i'w amserau mewn modd arbenig.

Nid oes dim a wnelom ni yn yr Adgofion hyn â chyfiawnhau na chollfarnu cywirdeb nac anghywirdeb y golygiadau a grybwyllir, na'r ymddygiadau a gofnodir; ond yn hytrach "mynegu yn helaeth y peth fel y bu," er mwyn dangos rhai o linellau cymmeriad Elias pan yn llywyddu yn mysg ei frodyr. Ag ystyried y gymdeithas lle yr ydoedd fel peiriant eang—yn meddu ar lawer paladr ac olwyn, ar lawer dant a llygad, ar lawer modrwy a chadwen, a'r amrywiol ranau hyny o wahanol faintioli a grym, ac yn amrywio llawer yn eu troadau a'u gwrthdroadau, gan nad pwy fyddai yn gwylio ar yr ysgogiadau ar y cyfan—efe fyddai bob amser yn gollwng yr ager i roddi cychwyniad a bywyd yn y cwbl oll. Yn gyffredin iawn, efe a ddewisid i'r gadair lywyddol; ond os, o ran oedran ac amgylchiadau, y dewisid rhywun arall fyddai yn bresennol, ato ef yr edrychid bob amser fel y prif weithredydd yn mhob rhan o'r gwaith. Ar godiad enwad mor lluosog a chynnyddol, yr oedd llawer o gynlluniau cyhoeddus yn ofynol ar gyfer cyflawnu diffygion a gofynion yr eglwysi mewn llawer modd; megys gwneyd anturiaethau tuag at estyn y terfynau, cychwyn symmudiadau newyddion mewn achosion cyhoeddus, ac mewn achosion lleol hefyd, ac i roddi anghydfyddiaethau i lawr, os dygwyddai iddynt gyfodi. Ato ef yr edrychid yn neillduol yn y pethau hyn. Yr oedd ganddo ef ddigon o