Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/93

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD IX.

JOHN ELIAS YN MYSG EI FRODYR MEWN CYMMANFA A CHYFARFOD MISOL.

Yr oedd oedran, profiad, doniau, ffyddlondeb, a defnyddioldeb cyffredinol Mr. Elias, wedi ei ddyrchafu i ddylanwad mawr iawn yn mhlith ei frodyr, yn yr adeg yr oedd yr enwad y perthynai iddo yn ymgorffori yn effeithiol, ac yn cymmeryd ei le cyhoeddus yn mysg dosbarthau crefyddol cyhoeddus y byd. Yr oedd wedi ennill iddo ei hun "radd dda," a thrwy hyny wedi dyfod i gymmeradwyaeth mawr. Yr oedd wedi ei gynnysgaethu â llawer o fanteision i fod yn ddefnyddiol, ac nid oedd yn ol o gyflwyno pob talent a feddai i wasanaethu crefydd—yn neillduol, o fewn cylch ei frawdoliaeth ei hun. Nid oedd odid gymmanfa chwarterol yn y Gogledd, nac ond ychydig o nemawr bwys yn y Deheudir, nac yr un cyfarfod misol yn Môn, na byddai efe yn bresennol. Nid arbedai deithio. Nid oedd na hin oer na hin frwd yn ddigon i'w attal rhag cyrhaedd ei gyhoeddiad. Ac yn gyffredin iawn, yn y cynnadleddau, ymddiriedid gofal y llyw i'w law ef; ac os dygwyddai i ystorm godi, gan nad faint fyddai y creigiau cuddiedig, a'r traethellau peryglus, byddai ef yn lled sicr o fynu gweled y llestr wedi cyrhaedd yr hafau ddymunol. Ni byddai neb yn arswydo rhag llongddrylliad, os byddai efe wrth yr helm! Y mae ambell ddyn fel enaid a bywyd pob cymdeithas lle byddo. Ychydig o ddynion enwog sydd wedi gwneyd gorchestion mawrion ar eu penau eu hunain, ar wahân oddi wrth gyd-weithrediad eu brodyr. Ceir ambell eithriad yn hyn, y mae yn wir, fel gyda phob achos arall—megys y gwelir anghraifft unigol yn Samson, yr hwn a ymaflai yn ngholofnau preswylfod y Philistiaid, ac â nerth ei fraich ei hur, heb gynnorthwy neb, a dynai yr adeilad i lawr yn chwilfriw. Ond yn gyffredin, fel arweinwyr, trwy gydweithrediad ereill, y cyflawnant bob gwrhydri. Dichon y gallasai Elias, gan eangder ei wybodaeth, a nerth ei alluoedd, wneyd cryn orch-