ALELUIA, &c.
HYMN I
Mawl y Cristion am orchfygu Gelynion ei Enaid.
1 TRwy rinwedd nefol ras rhof glod i'r Iesu glân,
Gorchfygodd angau glas, fe'm tynnoddio'r tân,
Archollwyd ef, ca's farwol friw,
Mae e' etto'n fyw; fy enaid cân.
2 Fy nghalon pa'm na's tyrr yn ddrylliau bob yr awr,
Wrth weld fy Mhrynwr pur, a'i waed yn llif i'r llawr:
Gan wylo 'n daer ar Dduw ei Dad,
Am faddeu'n rhad fy meiau mawr.
3 Rhyfelodd CRIST a'r ddraig, trwy angau dirfawr boen,
Gorchfygodd Had y wraig, i'r orfedd'r aeth yr Oen;
Tros f' enaid i mae e' yno 'nawr,
F' Eiriolwr mawr, a'm'hanwyl Ion.
4 Concwerodd Iesu'n llyn ellyllon uffern faith,
'Does ynddynt bellach rym i'm rhwystro ar fy nhaith,
Pa'm 'r ofnaf mwy? anturia'n hy'
Trwy ganol llu ngelynion llaith.
5 Mae'r ffordd yn awr yn rhydd i entrych nefoedd wen,
Gall pob pechadur prudd gael lle o fewn i'r llen:
Mae'r Iesu fry a'i freichiau 'r led;
Fy enaid, cred. Amen, Amen.