Tudalen:Aleluia - neu, lyfr o hymnau (IA aleluianh00will).pdf/6

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

HYMN II.

Mawl i GRIST am ei Eiriolaeth.

1 O'R holl gadwedig lu, fy'n teithio i Salem lân,
Myfi yw'r mwya' du ar bawb yn dwyn y bla'n:
Tragwyddol ras, na bu 'fai'm nyth
Mewn cadwyn byth, yn uffern dân.

2 Er hyn nid ofnaf mwy, er cynddrwg yw fy ngwedd,
Ca's pechod farwol glwy' gan IESU glân a'i gledd':
Mae'r ddraig yn triw dan draed fy NGHRIST,
Mae I'm henaid trist dragwyddol hedd.

3 Efe yw'm Meichiau mawr o flaen gorfeddfainge Ion.
Sy'n eiriol bob yr awr, gan gofio ei ddirfawr boen:
Pa'm'r ofnaf mwy? mae'n llifo maes
I orfedd gras bur waed yr Oen.

4 Mae briw y biccell fain, a thyllau'r hoelion dur,
Ac ôl y goron ddrain, a chwysau'r groes a'i chur,
Yn dadleu nerth cyfiawnder Naf,
Dros fenaid claf am heddwch pur.

5 Dioddefaint IESU GRIST orchfygodd lid Duw Ion,
Pob peth ry'm henaid trist, wrth feddwl am ei boen:
Fy unig sail y bydd e'n Dduw,
Im' tra fwy byw fy ngwaed yr Oen.

HYMN III.

Hiraeth am weled Dydd Ymddattediad.

YN ddisaw disgwyl f' enaid prudd,
O'r diwedd daw, nesau mae'r dydd,
Pan caf roi naid i'm nefol nyth,
Lle byddaf byw yn berffaith byth,

2 Mi flinais fod mewn anial fyd,
Am fyn'd 'rwy'n glau i'm gartre' clyd,