Un Sabboth, ymgymerodd a'r annichonadwyaeth o adgyfodi y meirw, oblegid hyny mewn gwirionedd fuasai rhoi anadl einioes yn nerwyddiaeth yr hen Gymry ag oedd wedi marw er's oesau ac wedi ei chyfrif yn mhlith y pethau a fu. Ymdyrodd canoedd o amgylch y Gareg Sigl yn ymyl Pontypridd; aeth y Myfyr drwy nifer o ddefodau diystyr a disynwyr, dechreuodd y bobl chwerthin am ei ben; a throwyd ysgerbwd hen baganiaeth y Cymry yn ol i'w fedd lle y dylasai Myfyr ei adael i barhau ei hun dragwyddol. Dysgodd y wers nad hawdd yw adgyfodi y meirw. Canlynwyr Myfyr oeddynt bobl ddiamgyffred a digrefydd, rhai na wyddent y gwahaniaeth rhwng drwg a da, y dwl a'r doeth.
XIII.
Pan y bu Myfyr farw, dysgwylid y cai Derwyddiaeth lonydd yn ei bedd, ond rhoes Myfyr ei fantell ar ysgwydd Morien, ei olnydd apostcraidd, yr hwn sydd yn ymhyfrydu mewn cwhwfanu corff y farwolaeth Derwyddiaeth o flaen llygaid y genedl. Heddyw gwelir Morien yn sathru gwin-wryf Derwyddiaeth ei hunan, ac nid oes neb o'r bobl gydag ef. Ond nid oes mwyach win yn y grawnsypiau, eithr y mae fel pe yn sathru clai neu bridd. Y mae yn ei esboniadaeth dderwyddol fel amaethwr gwirion yn dyrnu gwellt henafiaeth.