ael. Yn y ddau frawd yn y chwedl hono, gwelir ffawd ac anffawd, sef Nissyen ac Efnissyen; y cyntaf yn was da, yn peri tangnefedd rhwng ei deulu pan y byddant lidiocaf; a'r llall ymladd pan y byddai heddychaf.
XXXII.
Arthur a ddywaid:
Ffarwelia, fyd, a'th gastiau cudd,
'Rwy'n gado'th frad a'm bron yn friw;
Gofidiau brofais, do, bob dydd,
A phoen o hyd i mi fu byw;
Ffarwelia, fyd, 'rwy'n mynd i'r wlad
Lle mae tawelwch a mwynhad!
Yn wych fy swydd, yn hardd fy mryd,
Yn uchel ddysglaer wrthrych clod;
Mawr oedd fy mri, mewn cylch mor ddrud
Edmygedd oesau oedd fy nod;
Ffarwelia, fyd, 'rwy'n myn'd i'r wlad
Lle mae tawelwch a mwynhad!
Ces ddraenen yn y blodyn mad;
Ces ddichell yn y llygad llaith,
Ces aml i broffes ffraeth yn frad,
Ac aml i friw wrth droedio'r daith;
Ffarwelia, fyd, 'rwy'n myn'd i'r wlad
Lle mae tawelwch a mwynhad!
Nid oes mewn byd ddim ddeil ond gras;
Na dim i'w goelio onid Duw;
Gwrandawaf ddaw o'r wybren las
Nid caru gwagedd byd yw byw;