Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Am Dro i Erstalwm.djvu/62

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XXXI.

Gwelwn y Brenin gwych Arthur yn ymadael dan archoll brad; gallai ddweyd mai ei dy ei hun fu ei andwyaeth; ei deului hun fu yr achos i'w amcanion godidog fethu; dan ei archoll ac yn ngwydd ei farchogion a'i arwyr penaf ar lawr yn eu gwaed, teimlai na cheid byth ond hyny gyfle mor braf i gyflawni y fath wrhydri ysblenydd; teimlai er iddo orchfygu y fradwriaeth fawr yn ei erbyn iddo wneyd hyny ar draul dirfawr andwyo ei fywyd ei hun, fel y dywaid Tennyson

While Arthur at one blow
Striking the last stroke with Excalibur
Slew him, and all but slain himself
He fell;

a gorfu iddo ddychwelyd ei Galedfwlch, arwyddlun ei freniniaeth arwrol, ddaeth i fyny ar nawnddydd dysglaer yn pelydru gan y fath riniau cyfriniol, yn ol i'r llyn, o'r hwn y cododd y llaw i'w gymeryd eilwaith. Ai ni ddengys hyn yn amlwg ac yn ddigamsyniol i'r genedl fethu cyflawni ei chenadaeth ac i ragluniaeth alw ei chyfle yn ol? Yn Mabinogi "Branwen Ferch Llyr," cawn yr un elfenau ymrafaelgar yn esgor ar anffodion a chanlyniadau dygn i'r bobl, fel nas gellir ebargofi y ffaith a ddysg hanes i'r genedl fethu o herwydd ei hoffder o ymraf-