Mae'r cobleriaid a'u morwynion
A'r rhai gwaetha' mysg y Seison,
Bob yr un a'r Beibl ganthynt.
Ddydd a nos yn darllen ynthynt.
Mae'r penaethiaid gyda ninau
A'u tableri ar eu byrddau,
Heb un Beibl nac un plygain
Yn eu tai na neb i'w darllain.
Pob merch tincer gyda'r Seison
Feder ddarllain llyfrau mawrion;
Ni wyr merched llawer Scweier
Gyda ninau ddarllain pader.
Dywedir nad oedd yn holl Gymru a Lloegr, yn y flwyddyn 1674 dros 30 o Feiblau Cymraeg, ond yn 1678 cafwyd argraffiad newydd o hono gan y Parch. Stephen Hughes, mewn undeb a boneddigion da eraill. Fel y gellir casglu o hanesion, "yr oedd bywydau llawer o offeiriaid ac athrawon yn anfad o anfucheddol, a'u syniadau yn resynol o gyfeiliornus." Yr oedd llawer o'r offeiriaid yn fulaidd o ran gwybodaeth o'r efengyl, ac yn anifeilaidd o ran moes. Yn mhob tebygolrwydd, cyn dechreu 1700, nid oedd ysgolion o gwbl yn y Dywysogaeth, ac ni allai y werin ddarllen na Saesneg na Chymraeg, er fod y wlad yn llawn o offeiriaid. Griffith Jones, Llanddowror, oedd tad addysg yn Nghymru. Nodweddid y bobl gan lythineb, meddwdod ac anlladrwydd. Ebai hanesydd, "Byddai pawb yn cadarnhau pob gair a ddywedent gyda llw