Gwirwyd y dudalen hon
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/7/73/Anthropos-Gwroniaid_y_Ffydd_%28Bedd_Gwilym_Cawrdaf%29.jpg/500px-Anthropos-Gwroniaid_y_Ffydd_%28Bedd_Gwilym_Cawrdaf%29.jpg)
"Dyma fan fechan ei fedd."
Ni cheir ganddo ef y nerth hwnw sydd yn nrychfeddyliau y bardd o Glynnog, na'r ysblander cyfoethog sydd yn nesgrifiadau Geirionydd. Y mae cynyrchion goreu Cawrdaf yn effeithio arnom fel diwrnod o haf—yn esmwyth a dymunol. Dylanwad tawel ydyw, ond erys yn hir ar y galon a'r cof.
2. Tynerwch a swyn sydd yn fwy nodweddiadol o hono fel bardd. Os cydmerir y galon i delyn, y tanau yr oedd efe yn feistr arnynt oedd—"tanau euraidd tynerwch.' Gallai chwareu ar y rhai'n i bwrpas, a pheri iddynt arllwys y miwsig mwyaf peraidd. Rhoddodd brawf ar ei awen mewn cyfeiriadau eraill. Y mae ganddo duchangerdd ar