ffolineb "Swyngyfaredd;" ond teimlir yn union nad oedd ei awen gartref. Pluen sydd ganddo lle y dylid cael ellyn llym. Tra yn desgrifio yr ofergoelion yn dda, y mae y watwareg ddeifiol hono sydd yn ysu ffolinebau o'r fath yn absenol. Nid oedd tuchan yn naturiol i'w awen, rywfodd; gallai alaru, gallai wenu, ond nis gallai duchan.
3.—Fel y mwyafrif o feirdd y cyfnod hwnw, ei gyfansoddiadau cynganeddol sydd yn rhestru uwchaf o ran teilyngdod. Fe gyfansoddodd lawer yn y mesur rhydd. Y mae ei gân i "Nos Sadwrn y Gweithiwr" yn cynwys llinellau da a theimladwy. Gwnaeth y gerdd i "Ladron Glan y Mor" wasanaeth yn ei dydd. Mae y "Gofadail" yn cynwys syniad prydferth, a cheir llinellau grymus yn y gân a gyfenwir y "Prif Beth." Ond nid yn y cyfeiriadau hyn y mae sail ei ragoriaeth.
4.—I symio i fyny, dywedwn fod Gwilym Cawrdaf ar gyfrif tlysni ei feddyliau, purdeb ei iaith, dillynder ei chwaeth, ac yn arbenig, y dôn ddyrchafedig sydd yn nodweddu ei weithiau, yn werth ei ddarllen, ei astudio, ei efelychu. Mewn oes pan oedd safon chwaeth yn aneffiniol, a dweyd y lleiaf, cadwodd y bardd hwn wisg ei awen yn hynod o ddilychwin. Ni chyffyrddodd a dim aflan. Ni lygrodd neb. Credwn fod yr hyder gobeithiol a anadlai yn niwedd ei gân i'r bwthyn y ganed ef ynddo, wedi cael ei sylweddoli er ys llawer dydd:—
A chyda gwefus hardd y gwir
Caf ddod, trwy ddyfnder gra
O holl dymestloedd mor a thir,
I lanau'r frodir fras,
Heb dywydd llaith fy mhaith yn hwy—
Awenydd mewn can newydd mwy.
Argraffwyd yn Swyddfa'r Wasg Genedlaethol Gymreig, (Cyf.), Caernarfon