JOHN TETZEL.
Yn mhen amser ar ol hyn, daeth John Tetzel ar ymdaith i Ogledd Germani i werthu maddeuant-lythyrau y Pab. Dynesodd at Wittenburg, lle y cartrefai Luther. Cynhyrfwyd ei ysbryd i'w waelodion. Ac ar y noson olaf o Hydref, 1517, wele y "mynach du," fel y gelwid Luther, yn mynd at ddrws eglwys gadeiriol Wittenburg; ac yno a'i law ei hun y mae yn hoelio gwrthdystiad cyhoeddus yn erbyn ffug-bardynnau y Pab. Darllenwyd y gwrth-dystiad gydag awch gan y bobl, ac ni chafodd yr arwerthydd cableddus roddi ei droed i lawr yn y dref. Profodd y papyr a hoeliwyd ar ddôr yr eglwys fel marworyn mewn pylor. Aeth y frwydr yn boethach o ddydd i ddydd. Anfonodd y Pab ei anathema i gondemnio Luther a'i syniadau. Cyrhaeddodd y wys i Wittenberg, ac ar y degfed o Ragfyr, 1520, rhoddodd Luther orchymyn am i goelcerth gael ei chyneu ar ganol marchnadfa Wittenburg. Daeth torf fawr yn nghyd, ac wedi egluro yr amgylchiadau i'r bobl, y mae y diwygiwr ieuanc yn ymaflyd yn "anathema" ysgrifenedig y Pab, ac yn ei fwrw i ganol y fflam. Dyna goelcerth anfarwol: goleuodd gyfandir.
LUTHER YN WORMS.
Yn mis Ebrill, y flwyddyn ganlynol, cafodd Luther ei wysio i ymddangos o flaen y Gyd-gyngorfa yn Worms. Yno yr oedd yr Ymherawdwr a'i osgordd urddasol; yno yr oedd llysgenadon anfonedig y Pab; yno yr oedd tywysogion yr Almaen; ac yno, heb neb yn meiddio dangos cydymdeimlad âg ef yr oedd y mynach o Wittenburg. Luther yn Worms! Dyna olygfa ag y mae darfelydd y bardd, pwyntel yr arlunydd, ac ysgrifell yr hanesydd wedi eu trethu hyd yr eithaf i geisio ei darlunio. Moment hanesyddol oedd hono pan gododd y llys-genad Pabaidd i