Tudalen:Anthropos-Gwroniaid y Ffydd.djvu/41

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i'w galon, a throes ei elyniaeth yn gyfeillgarwch at y pregethwr a'r Efengyl a gyhoeddwyd ganddo. Rywbryd ar ol hyny, ceisiodd ddiwygio'r hen englyn, fel hyn,—

Gan Gradoc, gwr enwog, câr i'n—cawn bregeth,
Nid bregiach heb wreiddyn:
Y gair gwir, tyst cywir, yw'r testyn,-
Cenhadwr Duw, a hynod ddyn.

Yr oedd Walter Cradoc yn Mristol yn ystod y gwarchae, yn adeg y rhyfel rhwng y Brenhin a'r Senedd. Cafodd ddianc o'r dref drwy garedigrwydd milwr. Yn 1647, ceir ef yn Llundain, wedi ei bennodi yn bregethwr yn All Hallows, drwy orchymyn Cromwell. Bu farw yn Nghymru, ar ddydd Nadolig, 1659. Gelwid ei ddilynwyr yn Gradociaid, ac arhosodd yr enw yn ein gwlad hyd ddyddiau y Diwygiad Methodistaidd. Nodyn:C'''VAVASOR POWELL.''' Brodor o Faesyfed oedd Vavasor Powell. Hana o hen deulu urddasol. Yr oedd yn foneddwr ac ysgolhaig gwych. Dychwelwyd ef drwy weinidogaeth Walter Cradoc. Ymroddodd i bregethu'r Efengyl. Teithiodd drwy Gymru a rhanau o Loegr. Profodd erledigaethau chwerw, a chafodd ddiangfeydd gwyrthiol. Yr oedd yn wr o gyfansoddiad cadarn, ac yr oedd ei wybodaeth Feiblaidd yn ddiarhebol. Cysegrodd ei hun a'i feddiannau i achos yr Efengyl. Yr oedd ei dŷ'n llety fforddolion, a dywedir ei fod yn rhoddi y bumed ran o'i holl dda ar allor crefydd. Ond llesteiriwyd ef yn ei waith bendithiol. Taflwyd ef o'r naill garchar i'r llall, ac o'r diwedd i garchar y Fleet yn Llundain. Dodwyd ef mewn cell afiach a drygsawrus, ac yno y bu'n dihoeni am un-mlynedd-ar-ddeg am ddim ond pregethu'r Efengyl i'w gydwladwyr. Yn y carchar hwnnw y bu farw yn y fl. 1670, pan nad ydoedd ond 53 mlwydd oed. Ond yr oedd wedi hau hâd gwerthfawr yn naear Cymru, ac efe a drodd lawer i gyfiawnder.