Tudalen:Anthropos-Gwroniaid y Ffydd.djvu/42

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD VI.
"Y DYDD HWNNW."

DYCHWELWN i edrych ar ystad pethau yn Lloegr. Wedi marw Cromwell diflanodd ysbryd y Weriniaeth. Glaniodd Charles II. yn Dover yn 1660. Cyn croesi drosodd i'r wlad hon yr oedd Charles wedi arwyddo Cytundeb yn ymrwymo i ganiattau rhyddid cydwybod ar bynciau crefyddol. Ond yr oedd addewidion y gwr hwnw, fel ei gymeriad, yn ansefydlog fel dwfr. Cyfarfyddodd nifer o esgobion ac arweinwyr y Piwritaniaid ar gais y brenhin, yn mhalas Savoy, ond nid oedd y drafodaeth yn meddu unrhyw ddylanwad gwirioneddol. Yr oedd Charles yn fab i'w dad, ac yn elyn i'r Piwritaniaid. Yn y flwyddyn ganlynol cafodd Deddf Unffurfiaeth ei hadgyfodi, a'i rhoddi mewn llawn rym. Gosodid gorfodaeth ar bob gweinidog i ddefnyddio y Llyfr Gweddi Gyffredin, ac i ddarllen "Llyfr y Chwareuon i'w plwyfolion.

"Y DDWY FIL."

Daeth y ddeddf hono i rym Awst 24, 1662, a'r "Sabboth oedd y diwrnod hwnw." Dyna'r adeg y troes y "Ddwy Fil," o fendigaid gof, allan o Eglwys Loegr, gan adael eu cartrefi, eu cyflogau, eu pobpeth, yn hytrach na bradychu. eu hegwyddorion. Yn eu plith yr oedd John Howe, Dr. Owen, Thomas Goodwin, Richard Baxter, &c., meddylwyr, duwinyddion, a phregethwyr penaf yr oes.

DEDDF Y TY CWRDD.

Wedi hyn pasiwyd Deddf y Ty Cwrdd (Conventicle Act). Lle bynag y ceid pump o bersonau yn cyd-addoli mewn ty annedd, yr oedd pob un yn agored i ddirwy o £5, neu dri