fwy i'r Eglwys Wladol na'i dadgysylltu yn yr Ynys Werdd. Y mae llwyddiant a chynydd wedi dilyn y gwaith.
Y DRETH EGLWYS.
Deddf oedd hon yn gorfodi pob trethdalwr i gyfranu. swm blynyddol at draul glanhau ac adgyweirio yr eglwysi plwyfol. Rhoddodd fod i lawer golygfa annymunol. Gwerthid eiddo Ymneillduwyr oeddynt oddiar argyhoeddiadau cydwybod, yn gwrthod talu y dreth. Proffwydid pethau difrifol os caffai y dreth eglwys ei diddymu. Haerid y byddai yr eglwysi plwyfol yn mynd yn adfeilion, a'r mynwentydd yn ddiffaethle anghyfaneddol. Ond ni ddaeth y broffwydoliaeth i ben.
DEDDF Y CLADDU.
A dyna'r Ddeddf Gladdu. Y mae hon yn estyn hawl i Ymneillduwyr i alw am wasanaeth eu gweinidogion eu hunain i gladdu eu hanwyliaid. Nid yw y Ddeddf yr hyn y dylai fod; y mae llawer rhyngddi a'r perffeithrwydd y daw iddo yn y man. Y mae rhan fawr o'r diffyg hwn yn gorwedd wrth ddrws Ymneillduwyr egwan a chlaiar.
ARWEINWYR Y BOBL.
Pwy oedd cymwynaswyr rhyddid crefyddol yn y cyfnod hwn? Pwy oedd yn arwain yn nydd y gad?
EDWARD MIALL.
Un ohonynt oedd Edward Miall, golygydd y "Nonconformist," ac apostol yr Eglwysi Rhyddion. Cysegrodd efe ei ysgrifell a'i ddoniau i wasanaethu y rhyfelgyrch hwn.
HENRY RICHARD.
A phwy all anghofio llafur Henry Richard? Y gŵr a amddiffynodd Wlad y Bryniau yn wyneb Brad y Llyfrau Gleision, ac a gysegrodd ei oes lafurus i achos heddwch a rhyddid crefyddol. Fel gwleidyddwr, gelwid ef yr "aelod