dros Gymru." Bu ei ysgrifeniadau amddiffynol i foesau a chrefydd ei wlad yn agoriad llygaid i lawer, heblaw Mr. Gladstone, yn ol ei addefiad ei hun.
GLADSTONE.
Ar y rhestr hon yr ydym yn rhwym o ysgrifennu enw y gwron sydd, bellach, wedi ymneillduo oddiwrth fywyd cyhoeddus,—William Ewart Gladstone. Ymladdodd efe frwydrau rhyddid am haner canrif—a phan wedi pasio gorsaf y pedwar ugain mlynedd o ran oedran, nis gallai ymattal heb godi ei lef—udgorn-floedd y dyddiau gynt—o blaid dioddefwyr Armenia dan sawdl haiarnaidd y Twrc.
PA BETH SYDD WEDI EI ENNILL?
Pa beth sydd wedi ei ennill yn y frwydr yr ydym wedi bod yn dilyn ei chwrs drwy wahanol oesau, ac mewn gwahanol wledydd?
Pa ragoriaeth sydd i Gymry ieuanc y dydd hwn? Pa fudd sydd o ymdrechion y Tadau, hen a diweddar? Gellir ateb,—llawer yn mhob rhyw fodd. Oherwydd, yn gyntaf ac yn benaf, "ddarfod ymddiried iddynt am ymadroddion Duw——Gair y Gwirionedd. Dyna "Magna Charta" rhyddid a rhagorfreintiau dyn. Pan ddaeth y Beibl i iaith ac i gyrhaedd y bobl, yr oedd dyddiau caethiwed wedi eu rhifo.
Nis gellir codi y stanc a'r ffagodau mwy. Y mae Deddf Unffurfiaeth ac Unbennaeth ysbrydol wedi mynd yn llythyren farw am byth. Ond y mae tir lawer eto i'w feddiannu. Yr ydym wedi sangu ar Ganaan Rhyddid. Y mae caerau ambell i Jericho wedi eu bwrw i lawr, ond y mae Canaaneaid eto yn aros yn y tir. Awn a meddianwn y wlad.
BANER RHYDDID.
Yn y cyfamser, bydded i ni dynu nerth ac ysbrydiaeth o esiamplau—bywyd a gwaith—y gwŷr godidog sydd wedi