Tudalen:Anthropos-Gwroniaid y Ffydd.djvu/58

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gerddi Bluog


eiddo teulu Edmwnd Prys. Y mae cofio hyn am sefyllfa ei deulu yn gynorthwy i ddeall ei hanes. Cafodd fanteision addysg uwchraddol; bu am ysbaid yn aelod o goleg Sant Ioan, Caergrawnt Yr amcan oedd ei osod yn yr offeiriadaeth, ac felly y bu. Syrthiodd ei goelbren yn y plwyf lle y ganed ef. Daeth yn offeiriad plwyf Ffestiniog a Maentwrog, ac ymsefydlodd yn y Tyddyn Du, ei hen gartref boreuol. Y mae

DYFFRYN MAENTWROG

yn cael ei gydnabod yn un o'r llanerchau mwyaf hudolus yn y Dywysogaeth. Awn yno ar ddiwrnod o haf. Wedi aros enyd yn mhentref Maentwrog, yr ydym yn troi ar y dde i gyfeiriad Maentwrog Uchaf. Ar ol dringo y rhiw, yr ydys yn dod i wlad uchel, agored, ac y mae y Tyddyn Du