Tudalen:Anthropos-Gwroniaid y Ffydd.djvu/59

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn sefyll ychydig o'r neilldu i'r ffordd sydd yn arwain i Drawsfynydd. Cyffredin a diaddurn ydyw y lle yn awr, ac nid oes yno odid ddim yn aros fu yn eiddo awdwr y Salmau Cân. Ond y mae y golygfeydd o ddeutu'r Tyddyn Du yn ardderchog. Mynyddau Meirion-"clogwyni coleg anian "--oddiamgylch,-a Dyffryn Maentwrog fel darn o Baradwys, odditanodd. Os oes gan olygfeydd natur ddylanwad i ddeffro ac ysbrydoli awen, yr oedd Edmwnd Prys yn cyfaneddu mewn bro fanteisiol-yno y mae Anian yn ymestyn fel panorama ar dde ac aswy, yn disgwyl am lygad i'w gweled, a chalon i gydymdeimlo â hi. Ac yr oedd y pethau hyny wedi eu hymddiried iddo ef.

Ond ag eithrio y moelydd a'r ffrydiau gloewon, y mae braidd bobpeth wedi cyfnewid er dyddiau y bardd-offeiriad,—dri chan mlynedd yn ol. Y pryd hwnw nid oedd pesychiad y ceffyl tân yn tori ar ddystawrwydd y cymoedd, ac nid oedd son am chwarelau byd-enwog Ffestiniog. Ychydig a theneu oedd poblogaeth y plwy, ac yr oedd ymgeledd ysbrydol yr holl drigolion dan ofal un gwr,—offeiriad Maentwrog.

Ychydig a wyddis am dano fel pregethwr, ond bernir ei fod yn rhagori mewn dau beth o leiaf, ar lawer o'i frodyr clerigol yn y cyfnod hwnw. Yr ydoedd yn wr bucheddol, glân ei foes, a phur ei gymeriad. Hefyd, yr ydoedd yn ymroddedig i efrydiaeth a myfyrdod. Nid dilyn y cŵn hela, nid arwain yn y mabol-gampau oedd ei uchelgais, ond olrhain treigliad ieithoedd, a thri ceinion y cyn-oesau i'r Gymraeg. Yn mysg ei gyd-oeswyr, yn yr ardaloedd hyny, yr oedd

HUW LLWYD O GYNFAL.

Yr oedd yntau yn ysgolhaig rhagorol. Bu am ran o'i oes yn filwr, a gwelodd lawer mewn gwledydd estronol. Ymsefydlodd yn Cynfal, ac yr oedd cyfathrach agos rhyngddo