Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Anthropos-Gwroniaid y Ffydd.djvu/63

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddefnyddio yn ngwasanaeth cyhoeddus y cysegr, rhaid addef fod grym yn y gŵyn,-gormod o unffurfiaeth. Er fod y mesur yn esmwyth, eto y mae gwrando ar yr un disgyniadau yn barhaus,—fel swn olwyn ddwr,—yn peri fod hyd yn nod y "darllenydd ystyriol" mewn perygl o gael ei gludo i dir cwsg a breuddwyd.

A chan i ni grybwyll y mesur, teg, hefyd, ydyw crybwyll un neu ddau o bethau eraill, a nodir fel brychau,—dim ond hyny, ar wyneb cyfanwaith dysglaer Edmwnd Prys.

(1). Fod yn y gwaith lawer o eiriau ansathredig, ac annealladwy i'r darllenydd cyffredin.

(2). Fod ynddo, hefyd, gryn nifer o linellau clogyrnog ac anystwyth, pur amddifad o felodedd a swyn. Dyna'r brychau, ac y mae y rhan fwyaf ohonynt bron yn fychain iawn mewn gwirionedd—bron yn anweladwy. Y mae rhagoriaethau y gwaith, o'r tu arall, yn brofedig a chlir. Nid oes angen gwneyd dim mwy na'u crybwyll.

(1). Y mae Salmau Edmwnd Prys yn cynwys cyfieithiad rhagorol o ystyr a sylwedd y testyn Hebraeg.

(2). Y mae yn yr emynau hyn, lawer pryd, esboniad ac eglurhad ar feddyliau y Salm. Gellir gweled yr elfen hon yn y cyfeiriadau canlynol:—

Ps. 17, 15—
Minnau mewn myfyr, fel mewn hun,
A welaf lun d'wynebpryd.

Ps. 19, 3—
Er nad oes ganddyat air na rhaith
Da dywed gwaith Duw Lywydd.

Ps. 34, 7:—
Angel ein Duw a dry yn gylch
O amgylch pawb a'i hofnant.

Ps. 65, 9:—
A'i rhoi yn mwyd mewn cawod wlith
I'w chawd rhoi fendith deilwng.