Tudalen:Anthropos-Gwroniaid y Ffydd.djvu/62

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y mae ei orchest lenyddol yn nglŷn â'r Salmau Cân yn amgen coffadwriaeth i'w enw na'r maen mynor mwyaf caboledig.

Bellach, y mae yn bryd i ni ddweyd ychydig eiriau ar y gwaith cenedlaethol hwn. O ran ei ffurf, cyfansoddwyd y rhan fwyaf o hono yn y

MESUR SALM.

Mesur rhydd ydoedd hwn o'i gydmaru â'r caeth-fesurau oedd mewn bri yn yr adeg hono. Gallasai Edmwnd Prys gyfansoddi yn orchestol yn hualau y gynganedd, ond dewisodd yn hytrach ddefnyddio mesur ystwythach a llai cywrain. Yn ei lythyr at y "darllenydd ystyriol," y mae yn nodi y rhesymau oedd yn ei dueddu at y gynganedd rydd. Dewisodd ymado â'r gelfyddyd, meddai, er mwyn cywirdeb, defnyddioldeb, ac er mwyn dod a'r gwaith yn nes at ddeall a chalon pob gradd.

Nis gwyddom a ydoedd Prys yn awdwr y mesur Salm ai peidio. Ond efe a wnaeth y defnydd helaethaf o hono, ac onid efe sydd wedi dangos mwyaf o feistrolaeth arno? "Y mesur esmwyth hwn," ebai am dano. Felly yr ydoedd iddo ef, oherwydd

Nid oes faws na dwys fesur
O un baich i awen bur.

Mae'n wir iddo arfer un neu ddau o fesurau eraill, yma a thraw, ond y mydr mwyf cyffredinol ydyw y mesur Salm. Dyna un gŵyn a ddygir gan y beirniaid yn ei erbyn—gormod o unffurfiaeth. Mewn gwaith o'r maintioli hwn dylasai fod mwy o amrywiaeth yn y ffurf, yn yr amwisg farddonol. Gellid dweyd yr un peth am weithiau gorchestol eraill. Cyfansoddwyd Coll Gwynfa sydd dros ddeng mil o linellau, i gyd yn y mesur diodl. Ac y mae'r un peth yn wir am bryddest Eben Fardd ar yr Adgyfodiad. Ond yn nglŷn â gwaith Edmwnd Prys, gwaith oedd i gael ei