Tudalen:Anthropos-Gwroniaid y Ffydd.djvu/66

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ydym yn cyfeirio at awdwr y "Geiriadur"—Mr. Charles o'r Bala. Dyma ei dystiolaeth ef ar y pwnc:—"Er fod rhai o'r llinellau yn anystwyth, a rhai geiriau yn annealladwy i'r cyffredin yn yr oes bresennol, yn nghyfieithiad yr Arch-ddiacon Prys, ar fesur cerdd, i'r iaith Gymraeg; eto, a'i olygu i gyd efo'i gilydd, rhaid i bawb deallus ei farnu yn rhagorol, ac yn rhoddi meddwl yr Ysbryd allan mor gywir ag a wnaed, neu a ellid ei wneuthur, mewn unrhyw gyfieithiad." ***** "A'r ddaear oedd afluniaidd a gwag, a thywyllwch oedd ar wyneb y dyfnder." Dyna, mewn ystyr foesol ac ysbrydol oedd sefyllfa y Dywysogaeth yn y dyddiau yr ydym wedi bod yn son am danynt. Ond yr oedd ysbryd Duw yn ymsymud ar wyneb y dyfroedd. Cyffyrddwyd ag ambell feddwl yma a thraw, ac yn y modd hwnw y casglwyd defnyddiau creadigaeth newydd. Dyna oedd gwaith bywyd William Salisbury, Dr. Morgan, ac Edmwnd Prys. Drwy y naill cafwyd Gair Duw yn yr iaith Gymraeg drwy y llall cafodd Salmau Israel eu gwisgo ag urddas a harddwch yr awen Gymreig. Ac ymhen ysbaid ar ol hyn,-wedi darparu y defnyddiau: defnyddiau gweinidogaeth yn y Beibl, defnyddiau mawl yn y Salmau, --Duw a ddywedodd--" Goleuni," a goleuni a fu.

Cofiwn ninnau dan belydrau
Y goleuni sanctaidd cu,
Am hanesiaeth cymwynaswyr
Moes a chrefydd Cymru Fu:
A thra byddo pur gerddoriaeth
Yn adseinio llan a llys,
Gyda hymnau Pantycelyn,
Canwn Salmau Edmwnd Prys.

}}