RHYDDID BARN.
PENNOD I.
BARN BERSONOL.
Y MAE rhyddid barn yn enedigaeth-fraint i ddyn. Yn yr ystyr hwn gall ddefnyddio geiriau yr Apostol: "Minau a anwyd yn freiniol." Ond os edrychir ar y pwnc mewn ystyr hanesyddol, y mae profiad dyn fel aelod o gymdeithas yn debycach i eiddo y canwriad: "A swm mawr y cefais y ddinasfraint hon." Rhyddid ydyw sydd wedi costio yn ddrud. Ac y mae yn parhau felly. Nid yw y drychfeddwl wedi ei sylweddoli eto yn ngwledydd Crêd; ond mae y goleuni yn llewyrchu yn gryfach yn barhaus, ac i gynyddu fwyfwy hyd haner dydd. Ond tra yn credu fod dyn yn etifedd rhyddid, ynfydrwydd fyddai dyweyd fod unrhyw ddyn yn dyfod i'r byd yn berchen barn. Genir ef yn y meddiant o ryddid, ond â swm mawr o lafur ac ymdrech y daw i feddu barn wirioneddol ar unrhyw bwnc neu gangen o wybodaeth. Gan hyny y mae yn dra phwysig i ni ddeall ystyr a therfynau y dywediad cyffredin, mai "rhydd i bawb ei farn."
Y GALLU I FARNU.
Y mae pob dyn ystyriol yn coleddu syniad uchel am y gallu i farnu. Yr ydym yn talu gwarogaeth i "ŵr o farn." Pan yn ymddyrysu gyda rhyw bwnc, y mae deall beth fydd barn dyn neu ddynion neillduol yn werthfawr yn ein golwg. Ond yr holiad naturiol ydyw, Beth sydd yn