Tudalen:Anthropos-Gwroniaid y Ffydd.djvu/68

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhoddi bod i'r cyfryw farn? Pa fodd y mae ei ffurfio? Pa ddeffiniad a roddir o honi? Hwyrach mai y modd goreu i geisio ateb y cwestiwn fyddai dull yr hen bregethwyr: yn gyntaf, yn nacäol; yn ail, yn gadarnhäol.

OPINIWN.

Yr ydym yn gwahaniaethu rhwng barn ac opiniwn. "Ymhob pen y mae opiniwn;" ond gormod o garedigrwydd fyddai dyweyd, ymhob pen y mae barn. Nid ydyw opiniwn o angenrheidrwydd yn wrthwyneb i farn. Gall wasanaethu fel arweiniad i mewn, fel cyntedd allanol i deml Barn. Nid oes gan ddyn ond opiniwn ar unrhyw fater nes y byddo wedi ei chwilio a'i bwyso, hyd y mae yn ei allu i wneyd hyny. Rhaid i bawb foddloni ar opiniwn am lawer o bethau dros amser, ond y mae anwesu opiniwn yn beryglus yinhob ystyr. Nid yw y dyn "opiniyngar yn aelod defnyddiol na dymunol o unrhyw gymdeithas. Fel rhagredegydd barn, y mae opiniwn yn haeddu parch; ond pan ä yn atalfa ar ffordd barn, ac i sefyll rhwng y meddwl a goleuni rheswm a ffeithiau, y mae yn myned yn farn drom ar ddyn, ac nid yn farn ynddo. Fel rheol, peth yn cael ei drosglwyddo ydyw opiniwn; goddefol ydyw yr hwn sydd yn ei dderbyn. Ond peth yn cael ei ffurfio— yn ymffurfio yn y meddwl ydyw barn. Gall y gwas fod o'r un opiniwn â'i feistr, y plentyn o'r un opiniwn â'i dad; ond am farn bersonol gellir dyweyd am dani-not transferable. Dylai fod yn dyfiant naturiol o feddwl ei pherchen.

TEIMLAD.

Y mae gwahaniaeth, hefyd, rhwng barn a theimlad. Gall dyn deimlo yn gryf ar lawer pwnc heb feddu ond y nesaf peth i ddim o farn am dano. Ac y mae teimlad lawer pryd yn gwrthryfela yn erbyn barn, ac yn gosod rhagfarn ar yr orsedd yn ei le. Mewn teimlad y mae nerth