Tudalen:Anthropos-Gwroniaid y Ffydd.djvu/69

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhagfarn. Y mae teimlad fel y llif-ddwr yn cario pobpeth o'i flaen, tra y mae barn fel y llif-ddor yn ei gadw o fewn terfynau uniondeb a gwirionedd. Nid yw barn yn anwybyddu teimlad, ond ceidw ef rhag arglwyddiaethu arnom. Unwaith y teflir y ffrwyn ar wàr y teimlad, y mae yn troi yn hunan-ddinistrydd. Dyna sydd wedi tywyllu gogoniant Dr. Johnson fel beirniad llenyddol. Gadawodd i'w deimlad tuag at Milton ddiffoddi goleuadau ei farn, ac mewn canlyniad y mae ysbryd rhagfarn yn llechu y tu cefn i'w frawddegau, ac yn peri iddo wlychu ei ysgrifell mewn wermod. Mae yr un peth, yn ol tystiolaeth Mr. Froude, wedi anafu clod Macaulay fel hanesydd. Dan ddylanwad

teimlad gwrthwynebus, yr hwn a ddirywiodd i fod yn rhagfarn, y mae ei sylwadau ar y cyfnod Puritanaidd a'i arweinwyr yn bradychu dibrisdod o ffeithiau, a gorbrysurdeb i dynu casgliadau oeddynt yn cydredeg â gogwydd ei feddwl ef ei hun.

TALENT.

Yr ydym yn gwahaniaethu eto rhwng barn a thalent. Y mae yn rhaid wrth allu i farnu, ond nid yw gallu meddyliol bob amser yn cydbreswylio â barn. Nid pob dyn o athrylith sydd yn ddyn o farn. Nid y beirdd goreu, yn fynych, ydyw y beirniaid goreu ar eu cyfansoddiadau eu hunain, neu ar yr eiddo eraill. Yr oedd Milton yn credu mai ei orchestwaith ef oedd y Paradise Regained, ond y mae beirniadaeth wedi penderfynu yn ffafr Paradise Lost. Nid ydyw John Ruskin yn cael ei restru fel arlunydd ymysg goreuon y Royal Academy, ac eto y mae barn Ruskin ar yr hyn a ddylai darlun fod yn gorbwyso yr oll gyda'u gilydd. Nis gallai awdwr Methodistiaeth Cymru gynyrchu un emynau Pantycelyn pe cawsai oes at y gwaith; ond fe ddywed ei fywgraffydd na wyddai efe am neb yn y cyfnod hwnw oedd yn meddu gwell barn ar emynau. Y mae