Tudalen:Ap-Vychan-CyK.djvu/103

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yr oedd gwr enwog arall wedi bod, yn ddiweddar, yn dal bywoliaeth Eglwysig Llanarmon. Ei enw oedd Peter Roberts. Yr oedd yn ysgolhaig trwyadl, yn hynafiaethydd manylgraff, yn dduwinydd galluog, ac yn seryddwr campus. Pan ofynnodd rhyw wr i Horsley, Esgob Llanelwy, a oedd efe yn adnabod un Peter Roberts, atebodd, "Diau fy mod, nid oes. ond un Peter Roberts yn y byd." Yr oedd ei dad, John Roberts, yn awrleisydd yn Rhiwabon, a symudodd oddiyno i Wrecsam. Pan oedd yno, ceisiodd. gwrthwynebydd rhwysgfawr a gwyntog iddo ei ddychrynnu a'i ddigalonni, drwy argraffu ar ei arwyddfwrdd ei fod ef yn "awrleisydd o Lundain." I'r diben o ollwng ychydig o'r gwynt allan o hono, argraffodd John Roberts ar ei arwyddfwrdd yntau, ei fod yn awrleisydd o Riwabon;" ac atebodd hynny yr amcan mewn golwg. Yn 1818, cafodd Peter Roberts fywoliaeth Halein mewn cyfnewid am. Lanarmon; ac yno, pan ar y weithred o roddi cardod i ddyn tlawd yn nrws ei dy, tarawyd ef gan y parlys mud, a bu farw y bore canlynol. Cwbl wagedd yw pob dyn pan fo ar y goreu," fel y tystiolaetha geiriau y Beibl.

Wedi cael ymborth yn Llanarmon, cyfeiriodd Robert Oliver i fyny i Ferwyn, a bob yn dipyn, wele ef yn sefyll ar ben Moel Fferna, lle y cafodd olygfa ogoneddus ar rannau helaeth o Gymru, a Lloegr hefyd. Disgynnodd wrth ei bwys i waered o Foel Fferna i Gorwen, lle y prynnodd ddau lyfr. Yn un o honynt, yr oedd cannoedd lawer o ymadroddion Cymreig wedi eu troi i Saesonaeg priodol, yr hyn a ystyriai Robert Oliver yn dra manteisiol iddo ef ar y pryd. Y llyfr arall ydoedd Gramadeg Dwyieithawg, neu Ramadeg o'r iaith Saesonaeg yn Gymraeg a