Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ap-Vychan-CyK.djvu/104

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Saesonaeg ar gyfer eu gilydd, o waith John Williams, wedi hynny o Lansilin, Rhosllanerchrugog, y Drefnewydd, a'r Rhos eilwaith yn niwedd ei oes. Gweinidog dysgedig, meddylgar, a gwir ragorol, yn perthyn i'r Bedyddwyr, oedd John Williams—dyn gwirioneddol fawr—y mwyaf a fagodd Gogledd Cymru yn yr oes honno oedd John Williams. Bu y llyfr hwnnw o ddefnydd mawr i Robert Oliver wedi hynny. Yr oedd taith o swydd yr Amwythig, a thros Ferwyn i Gorwen, yn llawn digon o waith diwrnod i Robert Oliver. Gan hynny efe a letyodd yng nghymydogaeth Corwen y noswaith honno.

Bore drannoeth, "cyn codi cwn Caer," yr oedd Robert Oliver ar y ffordd yn cyfeirio tua Bangor. Aeth heibio i Rug, lle yr oedd heliwr cadarn yn preswylio y pryd hwnnw. Dringodd i ardal Llangwm, lle yr oedd hen weinidog perthynol i'r Anibynwyr, o'r enw Thomas Ellis, yn preswylio. Gwr oedd efe "yn ofni Duw yn fwy na llawer," ac yn wir lafurus yn y weinidogaeth. Yn yr ardal honno. hefyd yr oedd John Roberts, brawd i'r enwog Robert Roberts o Glynog, yn cyfaneddu. A honno oedd gwlad. y pastynfardd, Hugh Jones o Langwm. Nid oedd a fynna! Hugh Jones â gwrandaw yr Ymneillduwyr. Gofynnwyd iddo unwaith a ddeuai efe i wrandaw un Sion Moses, pregethwr perthynol i'r Methodistiaid, oedd yn byw yn y Bala, ond ei ateb oedd yn nacaol. Ebai ef—

"Mi gymra i nhywys gan fugail yr eglwys,
Rhag ofn fod Sion Moses yn misio."

Cyn bo hir, yr oedd Robert Oliver ar gyfer hen gartref John Jones, Glan y Gors, awdwr y traethodau, "Seren dan Gwmwl, a Thoriad y Dydd," a